adnoddau a buddsoddiad
ymrwymo amser
mae partneriaid newydd wedi neilltuo digon o amser i weithio ar y prosiect gyda chefnogaeth arweinwyr iechyd fel bo angen
digolledu artistiaid
caiff artistiaid eu talu am ddatblygu a gwaith cydweithio parhaus mapio modelau a gofynion tyfu
arallgyfeirio cyllid (craidd/egin)
mae partneriaid priodol yn buddsoddi arian craidd i sicrhau’r prosiect, ac os bydd angen, gwneir cais am gyllid egin ar gyfer meysydd newydd
cyflawni a llwybrau
canolbwyntio ar ansawdd
mae’r cyfranogwyr a’r partneriaid yn y prosiect yn ystyried bod profiadau artistig a chymdeithasol y prosiect o’r safon uchaf
atgyfeirio
mae gennym broses ar waith i atgyfeirio pobl o'n prosiect at gymorth pellach neu weithgaredd creadigol
bod yn gynhwysol
bod y bobl sydd wedi’u hymylu fwyaf (ee y rheini sy’n profi hiliaeth neu amddifadedd economaidd-gymdeithasol) yn gallu cael mynediad at y prosiect yn ddiogel
perthnasoedd ac adrodd straeon
adnabod y farchnad
rydyn ni’n dysgu sut mae ein prosiect yn rhoi blaenoriaeth strategol glir i iechyd a/neu ofal
gwybod beth yw’r stori
rydyn ni’n datblygu stori glir i’w hadrodd, gan gasglu hanesion personol gan ein cyfranogwyr, a data gwerthuso
adrodd y stori
mae gennym amrywiaeth o asedau - gwe, print, fideo, adroddiadau - i helpu adrodd ein stori i’n cynulleidfaoedd gwahanol a chael mynediad at sianeli priodol
tystiolaeth a gwerthuso
casglu a mesur
rydyn ni’n defnyddio dulliau addas a hyfyw o gasglu data er mwyn canfod a ydyn ni wedi cyflawni ein hamcanion
defnyddio ymchwil o’r gorffennol
rydyn ni’n defnyddio tystiolaeth sydd eisoes yn bodoli (neu sydd ddim yn bodoli), er mwyn dangos bod y math o brosiect rydyn ni’n ei gynnal yn seiliedig ar dystiolaeth
cynnwys pobl mewn dysgu
mae gennym gwestiynau dysgu clir ar gyfer ein gwerthusiad sy'n cysylltu â'n hamcanion ac sydd wedi cael eu creu gyda chyfranogwyr ac arweinwyr