adnoddau a buddsoddiad
ymrwymo amser
mae partneriaid iechyd wedi neilltuo digon o amser i weithio ar yr her, gyda chefnogaeth noddwyr prosiectau (arweinwyr iechyd)
digolledu artistiaid
caiff artistiaid eu talu am ddatblygu prosiectau a gwaith cydweithio
bwriad i brofi
rydyn ni’n bwriadu casglu swm bach o arian ar gyfer y cam 'profi'
cyflawni a llwybrau
pennu ein hamcanion
mae’r holl bartneriaid a rhai cyfranogwyr posibl wedi cyfrannu at set glir o amcanion uchelgeisiol ar gyfer ein pobl a’n sefydliadau
bod yn glir ynghylch rolau
rydyn ni’n deall rolau ein gilydd ar y tîm, mae gennym gynllun ar gyfer pwy sy’n gwneud beth, ac rydyn ni’n rhannu llwyddiannau, oedi a newidiadau
archwilio llwybrau atgyfeirio
rydyn ni’n glir pwy allai gyfeirio pobl at ein prosiect posibl ac rydyn ni wedi dechrau archwilio eu logisteg a'u gweinyddiaeth
perthnasoedd ac adrodd straeon
mapio cynulleidfaoedd
gwyddom pwy yw’r bobl a'r sefydliadau allweddol rydyn ni am rannu hanes ein prosiect â nhw a sut i'w cyrraedd
datblygu perthnasoedd
rydyn ni’n datblygu cysylltiadau â phobl a sefydliadau a allai, yn ein barn ni, gefnogi ein gwaith
meithrin ymddiriedaeth gyda phartneriaid
mae gan bob partner feddylfryd agored sy’n barod ar gyfer Ymchwil a Datblygu, lle mae llwyddiannau a methiannau yn rhannau gwerthfawr o ddysgu
tystiolaeth a gwerthuso
archwilio tystiolaeth bresennol
rydyn ni’n ymchwilio i'r dystiolaeth bresennol sy'n ymwneud â'n her iechyd fel sail ar gyfer ein dealltwriaeth
ystyried pam mae angen tystiolaeth
gwyddom pwy fydd yn darllen ein hadroddiad gwerthuso, pam ac at beth y gallai hyn arwain yn y dyfodol
sefydlu arweinydd data
mae gennym gyswllt data penodol i lywio’r ffrwd waith hon