Gallwch eu defnyddio i’ch helpu ar ddechrau taith eich prosiect arloesi yn y celfyddydau ac iechyd. Gallai’r rhain fod yn ddefnyddiol wrth i chi wneud y canlynol:
● meithrin partneriaeth ymrwymedig;
● cael dealltwriaeth ddofn o’r her iechyd;
● pennu amcanion clir ar gyfer pobl a sefydliadau.
Yn aml, nid yw arloesi’n broses sy’n dilyn llinell syth. Rydym yn gobeithio y bydd yr adnoddau hyn yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n gweithio ar brosiectau yn y celfyddydau ac iechyd ar unrhyw adeg, i’w helpu i ganfod a mynd i’r afael â heriau wrth ddarparu neu werthuso prosiect, i ddatrys gwrthdaro, ac i ddatblygu agwedd fyfyriol at eu gwaith.