adnoddau a buddsoddiad
ymrwymo amser
mae partneriaid newydd wedi neilltuo digon o amser i weithio ar y prosiect gyda chefnogaeth arweinwyr iechyd fel bo angen
digolledu artistiaid
caiff artistiaid eu talu am ddatblygu a gwaith cydweithio parhaus mapio modelau a gofynion tyfu
arallgyfeirio cyllid (craidd/egin)
mae partneriaid priodol yn buddsoddi arian craidd i sicrhau’r prosiect, ac os bydd angen, gwneir cais am gyllid egin ar gyfer meysydd newydd
cyflawni a llwybrau
ailbennu ein hamcanion
mae’r partneriaid newydd a chyfranogwyr presennol wedi llywio set ddiwygiedig o amcanion ar gyfer ein pobl a’n sefydliadau
llwybrau atgyfeirio newydd
rydyn ni’n glir ynghylch pa sefydliadau a thimau newydd allai fod yn atgyfeirio pobl at ein prosiect posibl ac rydyn ni wedi archwilio ymarferoldeb a sut i drefnu hyn
bod yn glir ynghylch rolau
rydyn ni’n deall rolau pawb yn y tîm, sut maen nhw wedi newid o bosibl a sut rydyn ni’n cyfleu unrhyw oedi neu newidiadau wrth i ni dyfu
perthnasoedd ac adrodd straeon
mapio cynulleidfaoedd newydd
gwyddom pwy yw’r bobl a’r sefydliadau allweddol rydyn ni am rannu hanes ein prosiect â nhw a sut i'w cyrraedd yn y llefydd newydd hyn
meithrin ymddiriedaeth gyda phartneriaid newydd
rydyn ni’n glir gyda phartneriaid bod elfen o brofi o hyd: gyda thwf unrhyw brosiect, gall pethau weithio’n wahanol mewn lleoliadau a llefydd newydd
parhau i adrodd y stori
rydyn ni bob amser yn ychwanegu at ein hasedau - gwe, print, fideo, adroddiadau - i helpu adrodd ein stori i gynulleidfaoedd newydd a phresennol
tystiolaeth a gwerthuso
safoni a gweithredu
rydyn ni’n archwilio beth yw elfennau cyffredin ein prosiect wrth i ni ei addasu ar gyfer llefydd newydd, er mwyn i ni allu parhau i dyfu
parhau i gasglu data
rydyn ni’n parhau i dyfu ar sail dysgu, felly rydyn ni’n ychwanegu o hyd at y dystiolaeth sylfaenol ynghylch ein prosiect
llunio cwestiynau
wrth ehangu ein prosiect, rydyn ni’n ystyried beth na wyddwn eto am sut y gallai’r prosiect weithio mewn llefydd newydd a mynd i’r afael â bylchau mewn gwybodaeth