chi yw hwn os: ydych chi’n gweithio i brifysgol neu os ydych chi’n ymchwilydd llawrydd, sy’n arbenigo mewn ymchwilio a/neu werthuso prosiectau arloesi yn y celfyddydau neu iechyd
Prif argymhelliad cyffredinol
➔ gweithio ochr yn ochr â thimau prosiect, arweinwyr iechyd a chyfranogwyr drwy gydol y broses arloesi, gan eu cefnogi i ddefnyddio dulliau ymchwil a gwerthuso priodol ar gyfer cam yr arloesi.
Gwaith paratoi
➔ deall y diwylliannau a’r materion trefniadaethol a wnaeth y prosiect hwn yn angenrheidiol
➔ dechrau dod o hyd i ddulliau casglu data posibl a thrafod cyfyngiadau posibl gyda thimau prosiect
➔ creu a chynnal proffil ar Rwydwaith Iechyd a Lles Celfyddydau Cymru
Prof
➔ datblygu protocol ymchwil cychwynnol ymarferol a hyblyg sy’n addas ar gyfer iteriad ac sy’n canolbwyntio ar ganfod cwestiynau ymchwil posibl ar gyfer camau diweddarach
➔ cyfrif am y broses yn ogystal â’r effaith gan fod y broses yn debygol o ddatblygu a newid wrth i ddulliau newydd gael eu profi
➔ arbrofi gyda mesurau canlyniadau ystyrlon a safonol yn lleol i ganfod yr offer casglu data mwyaf addas ar gyfer eich prosiect
buddsoddi
➔ bod yn glir ynghylch eich costau, eich proses, eich disgwyliadau a’r hyn sydd ar gael ar gyfer cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil, a’r hyn sy’n gysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys cynllun ar gyfer pwy fydd yn casglu data ac yn ysgrifennu adroddiadau
➔ cefnogi prosiectau i gofnodi ansawdd ochr yn ochr â nifer, ee y newid mwyaf sylweddol, ymchwiliad gwerthfawrogol
Tyfu
➔ cynnal a rhannu meta-ddadansoddiad ac adolygiadau o dystiolaeth bresennol yn ôl math o brosiect, cyflwr iechyd neu leoliad, er mwyn helpu pobl i ddeall cyd-destun eu datblygiadau arloesol
➔ symleiddio ymchwil: gwneud eich adroddiadau a’ch allbynnau’n hygyrch a rhannu eich ymchwil yn y termau symlaf posibl lle bynnag y bo modd
➔ cyflwyno eich ymchwil i feysydd polisi ac iechyd (ee Grwpiau Trawsbleidiol) i helpu i ddylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau