Gallwch eu defnyddio i’ch helpu ar gam buddsoddi eich prosiect arloesi yn y celfyddydau ac iechyd. Gallai’r rhain fod yn ddefnyddiol wrth i chi wneud y canlynol:
● mesur effaith a chanlyniadau’r syniad;
● casglu a rhannu stori’r prosiect;
● datblygu adnoddau i wreiddio ein prosiect yn y tymor hir.
Yn aml, nid yw arloesi’n broses sy’n dilyn llinell syth. Rydym yn gobeithio y bydd yr adnoddau hyn yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n gweithio ar brosiectau yn y celfyddydau ac iechyd. Gallant helpu i adnabod a mynd i’r afael â heriau wrth gyflwyno neu werthuso prosiectau, i ddatrys gwrthdaro neu i ddatblygu agwedd fyfyriol tuag at eu gwaith.