Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi lansio ymgyrch recriwtio ar gyfer wyth rôl arweinyddol newydd, fel rhan o'i ailstrwythuro sefydliadol presennol.
Mae'r newid strategol yn dilyn trafodaethau gyda staff, y sector celfyddydau ehangach a rhanddeiliaid, ochr yn ochr â chanfyddiadau sawl adroddiad a gomisiynwyd yn ddiweddar am ffurfiau celf penodol, gan gynnwys dawns, cerddoriaeth werin a theatr Saesneg. Mae'r swyddi newydd yn adlewyrchu newid strategol tuag at sicrhau rhagor o arbenigedd ym mhob maes unigol yn ddyfnach o fewn arweinyddiaeth y sefydliad.
Mae CCC yn chwilio am unigolion profiadol yn y sector celfyddydau ym maes cerddoriaeth, theatr, dawns, y celfyddydau a iechyd, cydraddoldeb ac ymgysylltu â'r gymuned. Mae'r penodiadau hyn wedi'u cynllunio i helpu'r sefydliad i alinio'n well â thirwedd ddiwylliannol sy’n esblygu ac i ddarparu cymorth mewn ffordd mwy effeithiol ar draws y Celfyddydau yng Nghymru.
Mae tirwedd greadigol Cymru yn newid - ac felly hefyd Cyngor y Celfyddydau. Mae'r ailstrwythuro hyn yn gam angenrheidiol i wella sut rydym yn cefnogi'r celfyddydau, ac i sicrhau bod ein gwaith yn parhau i fod yn berthnasol, wedi'i arwain gan arbenigwyr yn eu maes ac yn ymateb i anghenion y sector. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn parhau i fod eisiau cryfhau ecoleg ddiwylliannol Cymru a meithrin seilwaith celfyddydol mwy cynhwysol a gwydn ar gyfer y dyfodol.
Mae'r wyth rôl sy'n cael eu hysbysebu ar hyn o bryd wedi'u rhestru isod.
Dyddiad cau ceisiadau yw dydd Gwener, 8 Awst, 2025.
Pennaeth Theatr, Celfyddydau Perfformio a Theithio
https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/pennaeth-theatr-perfformio-celfyddydau-theithio
Pennaeth Pobl Ifanc a Sgiliau
https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/pennaeth-pobl-ifanc-sgiliau
Pennaeth Celfyddydau, Iechyd a Llesiant
https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/pennaeth-celfyddydau-iechyd-llesiant
Pennaeth Cerddoriaeth
https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/pennaeth-cerddoriaeth
Pennaeth Dawns
https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/pennaeth-dawns
Pennaeth Ymgysylltu a Chymunedau (gan gynnwys Noson Allan)
Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb a Phartneriaethau
https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/dirprwy-gyfarwyddwr-cydraddoldeb-phartneriaethau
Uwch Hwylusydd Busnes
https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/uwch-hwylusydd-busnes