Mae 15 artist a sefydliad celfyddydol o Gymru ymhlith y cyntaf i gael arian gan Immersive Arts.
At ei gilydd mae bron i £1.2 miliwn wedi'i ddyrannu i 83 prosiect dan arweiniad artistiaid ledled Prydain yn rownd ariannu gyntaf Immersive Arts, cynllun sy'n cefnogi artistiaid o bob cefndir a phrofiad i weithio gyda thechnolegau ymgolli.
Mae 3 swm grant ar gael - £5,000, £20,000 a £50,000. Mae'n cefnogi artistiaid ar wahanol gamau o'u datblygiad creadigol: archwilio, arbrofi neu ehangu sut maent yn creu gwaith sy'n defnyddio technoleg i ymgysylltu â chynulleidfa.
Consortiwm Prydeinig yw Immersive Arts, dan arweiniad Stiwdio’r Pervasive Media yn y Watershed, Bryste, gyda phartneriaid ym mhob cenedl. Canolfan Mileniwm Cymru yw'r sefydliad arweiniol yng Nghymru.
Cafodd Immersive Arts 2,517 cais o bob rhan o Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr –llawer uwch na'r disgwyl. Roedd yn arwydd am y diddordeb a’r galw ymhlith artistiaid sydd am greu a rhannu gwaith anhygoel. Roedd tua 200 cais o Gymru.
Yn y rownd gyntaf, rhoddwyd £1,180,000 fel a ganlyn:
- 50 x £5,000 - grantiau archwilio (8 yng Nghymru)
- 24 x £20,000 - grantiau arbrofi (5 yng Nghymru)
- 9 x £50,000 - grantiau ehangu (2 yng Nghymru)
Bydd yr artistiaid llwyddiannus yn archwilio gwahanol gelfyddydau gan gynnwys dawns, theatr, y celfyddydau gweledol, cerddoriaeth, gemau, animeiddio, ffilm, cerfluniau a chelf fyw. Byddant yn gweithio gydag ystod o dechnolegau gan gynnwys rhithwir, realiti estynedig a chymysg, sain lle, tafluniadau rhyngweithiol, golwg peirianyddol, amgylcheddau ymatebol, deallusrwydd artiffisial, hapteg a thecstilau cysylltiedig.
Ymhlith y rhai sy'n cael grant Ehangu yng Nghymru mae Jack Philip ar gyfer 'We Live In An Old Chaos of the Sun', gwaith dawns gyfoes sy'n dod â bydoedd coreograffi ynghyd â thechnoleg ddigidol trochi mewn amser real.
Dywedodd Jack: "Dwi wrth fy modd ac yn ddiolchgar i fod yn rhan o’r garfan gyntaf i gael arian Immersive Arts. Mae'n tystio i bwysigrwydd cydweithio ledled Cymru a’r tu hwnt. Mae'n anrhydedd imi gyfrannu at y cydweithio. Mae'r cyfle’n fraint ac yn atgoffa pawb o rym cysylltiadau blaengar ac uchelgais creadigol. Mae’n wych gwireddu ein syniadau a dwi'n diolch i Immersive Arts am gredu yn fy ngweledigaeth ac am roi'r cyfle imi ei gwireddu. Mae eu cefnogaeth yn tanio fy uchelgais ac yn fy ysbrydoli i barhau i greu gyda phwrpas a chalon."
Bydd Common/Wealth, cwmni yng Nghaerdydd a Bradford, hefyd yn cael grant Ehangu.
Dywedodd Rhiannon White a Camilla Brueton o Common/Wealth:
"Rydym wrth ein bodd i gael arian Ehangu gan Immersive Arts. Rydym ar dân am archwilio posibiliadau adrodd straeon trochi. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu y ffordd yr ydym yn gweithio gyda’r celfyddydau trochi gyda’n hartistiaid a'n cynulleidfa. Rydym yn gweld y grym sydd gan dechnoleg drochi wrth lunio ein dyfodol a sut mae straeon yn cael eu hadrodd a chan bwy. Yn union fel y theatr ei hun, rydym o’r farn y dylai’r celfyddydau trochi berthyn i bawb.
Bydd ein ffocws ar ein cynhyrchiad yn yr hydref, lle byddwn yn archwilio realiti digidol sy'n gorgyffwrdd, gwyliadwriaeth amatur a deallusrwydd artiffisial ac yn gweithio gyda'r Technolegydd Creadigol, Nathanial Mason. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion amdano’n fuan."
Dywedodd Rhys Miles Thomas a gafodd grant Arbrofi:
"Mae'n wych cael grant Immersive Arts! Mae'n ardderchog gallu arddangos fy ngwaith fel person creadigol Byddar, Anabl neu Niwroamrywiol (BAN) o Gymru. Yn aml mae pobl yn dibrisio’r celfyddydau a chyda thoriadau ofnadwy i gefnogaeth i bobl FAN, mae cael cronfa fel hon yn hanfodol. Diolch am y rhyddid i greu. Ymlaen!"
Mae arian Immersive Arts ar gael drwy gydweithio rhwng Cyngor Ymchwil Celfyddydau a Dyniaethau Ymchwil ac Arloesedd y DU, Cyngor Celfyddydau Cymru, Yr Alban Greadigol, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a Chyngor Celfyddydau Lloegr. Mae’r arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Yr Alban Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon yn dod o’r Loteri Genedlaethol.
Agor y sector trochi
Nod Immersive Arts yw creu amgylchedd cynhwysol a hygyrch i bobl greadigol ddod i faes y technolegau trochi. Bydd y rhain yn cynnwys artistiaid nad ydynt wedi cael y cyfle i weithio ynddynt o'r blaen a rhai ymylol yn y sector. Mae tystiolaeth glir bod pobl Prydain dan anfantais ar sail rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd (ymhlith ffactorau eraill). Mae'r anghydraddoldeb i’w weld yn glir yn y celfyddydau ac mae’n amlycach fyth ym maes technoleg. Mae tîm Immersive Arts yn gweithio i’w wyrdroi. Rydym yn falch o weld cynifer o geisiadau gan artistiaid amrywiol ac â phrofiad byw o bob cwr o Brydain.
Dyma restr lawn o’r prosiectau a gafodd arian yn y rownd gyntaf gan gynnwys y 15 o Gymru: https://immersivearts.uk