Gallwch eu defnyddio i’ch helpu ar gam profi eich prosiect arloesi yn y celfyddydau ac iechyd. Gallai’r rhain fod yn ddefnyddiol wrth i chi wneud y canlynol:

datblygu syniadau a allai gyflawni amcanion;

dysgu, boed hynny drwy lwyddiant, methiant neu ddiwygio;

gweithio’n well mewn partneriaeth.

 

Yn aml, nid yw arloesi’n broses sy’n dilyn llinell syth.  Rydym yn gobeithio y bydd yr adnoddau hyn yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n gweithio ar brosiectau yn y celfyddydau ac iechyd ar unrhyw adeg, i’w helpu i ganfod a mynd i’r afael â heriau wrth ddarparu neu werthuso prosiect, i ddatrys gwrthdaro, ac i ddatblygu agwedd fyfyriol at eu gwaith.

 

 

Lawrlwythiadau