Dros yr wythnosau diwethaf rydym ni wedi bod yn siarad gyda'n noddwyr, byrddau iechyd, cyrff / ymarferwyr a rhwydweithiau celfyddydau ac iechyd yng Nghymru yn ogystal â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, i ddeall beth sy'n digwydd a ble y gallem ni ychwanegu gwerth o fewn agenda dysgu Rhaglen HARP.

Mae tîm rhaglen HARP wedi cynllunio her sy'n ceisio cynyddu ein gwybodaeth ar y celfyddydau ac iechyd yng nghyd-destun COVID-19.

Yr Her Sbrint

Rydym wedi cynnull tîm o artistiaid, hwyluswyr celfyddydau a gweithwyr proffesiynol ym maes y celfyddydau ac iechyd, i weithio gyda'i gilydd ym mis Mai a Mehefin 2020.  Fel tîm, byddant yn ystyried carfannau, mapio anghenion, gosod targedau a chanfod syniadau i'w profi, sy'n adeiladu ar asedau cymunedol, creadigol a gofal iechyd sydd eisoes ar gael.

Ar gyfer y sbrint hwn, y cwestiwn cyffredinol fydd:

Sut ydym ni'n gwella llwybrau a mynediad at ymyriadau celfyddydol sy'n cefnogi gwahanol grwpiau yn ystod y cyfnod hwn a thu hwnt?

Rydym ni wedi dewis y ffocws hwn o blith agenda dysgu ehangach HARP, oherwydd ein bod yn credu mai gan hwn mae'r potensial mwyaf ar gyfer effaith tymor byr a hir, ond mae'n dal i adael lle i'r tîm weithio ar fapio carfannau ac asedau.

Bydd Y Lab yn hwyluso proses gyflym, cyffyrddiad ysgafn sy'n cynnig adnoddau, cyllid a chymorth coetsio, yn ogystal â mesur effaith y syniadau ymchwilio i'r broses trwy ein Cymrawd Ymchwil Celfyddydau ac Iechyd Prifysgol Caerdydd (Dr Sofia Vougioukalou).

Beth wnaeth y timau?

Fe wnaeth y pedwar tîm brofi’r syniadau canlynol ym mis Gorffennaf a mis Awst 2020:

15 Bob Dydd

Gweithio gyda phobl sy’n teimlo’n unig

Cafodd deg o gyfranogwyr a oedd yn teimlo’n unig saith diwrnod o brofiadau realiti rhithwir dros wythnos. Postiwyd clustffonau Google Cardboard atynt gyda gweithgareddau penodol yn gofyn iddynt ymateb gyda brasluniau, paentiadau a darnau ysgrifennu. Cafodd y darnau eu curadu mewn oriel Artsteps ar-lein. Defnyddiwyd dull pwrpasol o fesur llesiant i olrhain eu hwyliau cyn ac ar ôl pob diwrnod o weithgarwch.

Family Arts Roundabout

Gweithio gyda phobl hŷn sy’n gwarchod rhag Covid ac aelodau iau o’r teulu

Mynychodd tri o bobl hŷn a oedd yn gwarchod rhag Covid bedair sesiwn greadigol ar-lein wythnosol gyda pherthnasau iau ac artistiaid proffesiynol i gynhyrchu fideo dawns, canu a chelf weledol gyda’i gilydd. Y nod oedd gwella’r berthynas rhwng aelodau o’r teulu a goresgyn rhwystrau rhwng cenedlaethau a rhwystrau technoleg a chyfathrebu er mwyn helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd.

Rengariffig

Gweithio gydag oedolion sydd â heriau iechyd meddwl a phobl sydd wedi goroesi anaf i’r ymennydd

Roedd dau grŵp o bump oedolyn gyda diagnosis iechyd meddwl ac un grŵp o bump a oedd wedi goroesi anaf i’r ymennydd wedi mynychu pedair sesiwn grŵp ar-lein wythnosol lle roeddent wedi creu cadwyni stori (‘Rengas’) o weithiau celf, wedi’u hysbrydoli gan waith ei gilydd a’u profiadau o’r pandemig. Cafodd y sesiynau eu hwyluso ar y cyd gan artistiaid a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, mewn partneriaeth â’r VC Gallery a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Y nod oedd darparu cymorth creadigol ac ategol yn ystod y cyfnodau clo pan gafodd therapïau wyneb yn wyneb eu hatal dros dro.

 

 

Cefnogaeth ariannol

Rhoddwyd grantiau bach o £1,000 gan Nesta i ddeg aelod o’r tîm.  Hefyd, roedd cyllideb fach ar gael i dalu artistiaid llawrydd i gyflwyno syniadau a darparu deunyddiau celf i gyfranogwyr.

 

Conversations / Future Selves

Gweithio gydag artistiaid B/byddar, anabl a niwrowahanol

Comisiynodd y tîm bump o artistiaid B/byddar a/neu artistiaid anabl i gynhyrchu darnau o gelf am brofiadau yn ystod y pandemig i’w rhannu â chymunedau iechyd a’r celfyddydau ehangach drwy wefan prosiect Conversations / Future Selves. Y nod oedd gwneud y cyhoedd yn fwy ymwybodol o effaith y pandemig ar bobl B/byddar, pobl anabl a phobl niwrowahanol, yn ogystal â’r heriau a’r cyfleoedd cymhleth y mae’r pandemig wedi’u creu iddyn nhw.

Ymchwil

Fe wnaethom gynnal cyfweliadau, grwpiau ffocws ac ymchwil gweithredol cyfranogol gydag aelodau’r tîm. Mae’r papur hwn yn cael ei ysgrifennu ar hyn o bryd yn barod i’w gyhoeddi.  Mae’r astudiaeth wedi canolbwyntio ar sut cafodd Sbrint ei ddarparu ar-lein, a hynny fel dull arloesi ac fel ffordd o gefnogi ymyriadau iechyd a chelfyddydol newydd a gafodd eu datblygu yn ystod y pandemig.

Beth oedd y canlyniadau?

Roeddem wrth ein bodd bod y pedwar tîm wedi llwyddo i dreialu eu prosiectau gyda chyfranogwyr.  Crëwyd cyfres gyfoethog a helaeth o allbynnau creadigol gan y pedwar prosiect a gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein hadroddiad Sbrint.

 

Lawrlwythiadau