Gan ymateb yn uniongyrchol i'r anghenion sy'n codi o'r pandemig a chydnabod bod arloesedd wedi cael ei ddatblygu, roeddem wedi ceisio dysgu mwy am sut y gall y celfyddydau helpu systemau iechyd a gofal gyda'u heriau mwyaf.

 

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, mae rhaglen Borthi HARP yn ymwneud â chydweithio i helpu - neu 'feithrin' - mentrau arloesi celf ac iechyd gwych i ddysgu mwy am eu heffaith a sut y gellid eu gwreiddio mewn lleoliadau iechyd.

 

Gan ymateb yn uniongyrchol i'r anghenion sy'n codi o'r pandemig a chydnabod bod arloesedd wedi datblygu ar draws y sector, roeddem yn ceisio dysgu mwy am sut y gallai’r celfyddydau helpu systemau iechyd a gofal gyda'u heriau mwyaf yn ystod Covid-19 a sut y gall mentrau arloesi celf effeithiol mewn lleoliadau iechyd a gofal dyfu a goroesi yn y tymor hwy.

Beth wnaeth y rhaglen Borthi HARP?

Rhwng Mawrth 2021 a Mawrth 2022, roeddem wedi cydweithio â charfan o 10 partneriaeth rhwng sefydliadau iechyd a'r celfyddydau, wrth iddynt gyflawni a datblygu cynlluniau ar gyfer arloesi yn y celfyddydau ac iechyd. Roeddent wedi nodi eu hamcanion a'u heriau eu hunain, eu rhannu â'r rhwydwaith o bartneriaid a chydweithio i wneud cynnydd arnynt. Yn y pen draw, roedd y prosiect yn ymwneud â dysgu - nid yn unig ar sail prosiect unigol ond ar draws y garfan gyfan.

 

 

Beth roedden ni’n gobeithio ei ddysgu?

Fel rhaglen ddysgu, roeddem yn gweithio gyda thimau Porthi i ystyried sut gellid cyflawni:

-          Modelau cyllido mwy cynaliadwy ar gyfer prosiectau celfyddydau ac iechyd

-          Tystiolaeth gadarn o effaith y celfyddydau ar bobl a systemau iechyd/gofal

-          Cyd-ddealltwriaeth o werth y celfyddydau rhwng partneriaid iechyd a'r celfyddydau

-          Amrywiaeth o brosiectau celfyddydau cynhwysol o ansawdd uchel ar gyfer iechyd

-          Llwybrau clir i bobl gael mynediad i'r celfyddydau

 

Roedd pob partneriaeth wedi gweithio'n annibynnol ar eu nodau a'u heffaith eu hunain, gyda chefnogaeth Hyfforddwr HARP a Chymrawd Ymchwil Y Lab.  Hefyd, daeth y garfan gyfan at ei gilydd trwy gydol y flwyddyn i rannu dysgu, sgiliau a gwybodaeth mewn gweminarau a hwyluswyd gan Rwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Lles Cymru mewn partneriaeth ag Y Lab a thîm People Powered Results Nesta.  Cafodd y sesiynau hyn eu harwain gan y partneriaethau yn seiliedig ar yr heriau a'r asedau a nodwyd gan y garfan eu hunain.

 

Roedd y ffocws ar ddysgu cydweithredol (yn ogystal â hyfforddiant mwy technegol lle bo angen), felly crëwyd gofodau– sef gweminarau carfan gyfan a grwpiau pwnc neu themâu mwy penodol - lle roedd y prosiectau wedi gallu dysgu oddi wrth ei gilydd a chyfrannu at well cyd-ddealltwriaeth o ddarpariaeth ac effaith prosiectau celfyddydau ac iechyd.  Gyda'n gilydd, gwnaethom edrych tua'r dyfodol, gan nodi'r hyn y bydd yn ei gymryd i syniadau oroesi a thyfu, a'r hyn sydd angen digwydd i wneud hyn yn bosibl.

 

Ymchwil

Gan fod y rhaglen hon hefyd yn brosiect ymchwil, roeddem wedi gweithio gyda phob prosiect i arsylwi a mesur canlyniadau ac effaith y rhaglen ar gyfranogwyr a sefydliadau.

 

 

Ariannu

Rhoddwyd grantiau o hyd at tua £35,000 i bob un o’r 10 partneriaeth, diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru trwy eu harian Loteri ar gyfer y celfyddydau ac iechyd.

 

 

Beth oeddem yn gobeithio ei gyflawni trwy rhaglen Borthi HARP?

Yn y pen draw, atebion newydd a gwell i heriau presennol, beth bynnag y bônt. Roedd y rhaglen HARP wedi'i chynllunio i'w helpu i gyflawni'r nodau hyn yn ogystal â sicrhau budd gwirioneddol i bobl, p’un ai fod y timau’n dymuno cynnal gwerthusiadau mwy perthnasol neu effeithiol, cefnogi mwy o bobl, ymgysylltu ag arweinwyr systemau iechyd neu gyfuniad o'r rhain (neu rywbeth arall hyd yn oed).

Rydym yn gwybod bod arloesi cydweithredol yn hanfodol wrth helpu'r syniadau gorau oll i dyfu a goroesi, felly roedd gofod diogel a chefnogol y rhaglen wedi galluogi'r prosiectau i ddatblygu trwy dynnu ar rwydwaith eang o sgiliau a gwybodaeth i gael y canlyniadau gorau oll.

Gyda phwy y gwnaethom weithio?

I fod yn gymwys i gymryd rhan yn rhaglen Borthi HARP, roedd y prosiectau'n bodloni'r meini prawf canlynol:

-          Mae'r prosiect wedi'i leoli yng Nghymru, gan gyflawni i bobl sy'n byw yng Nghymru

-          Mae'r syniad yn un cadarn ac, yn ddelfrydol, mae eisoes wedi'i brofi gyda chyfranogwyr

-          Mae tîm cryf, gyda phartneriaid iechyd, y celfyddydau a gwerthuso a enwir

-          Mae'r prosiect yn ceisio diwallu angen lleol clir yn un o feysydd blaenoriaeth canlynol HARP yng Nghymru, trwy:

o   gynorthwyo gweithlu iechyd a gofal;

o   meithrin gwydnwch pobl sy’n wynebu afiechyd y meddwl neu’r corff; a/neu

o   wella iechyd grwpiau o bobl sydd ar y cyrion, heb gynrychiolaeth ddigonol neu mewn perygl.

-          Mae'r tîm yn uchelgeisiol ynghylch effaith ac mae ganddo ymrwymiad i ddysgu

-          Mae pob partner wedi ymrwymo i gynaliadwyedd tymor hir ac mae ganddo syniadau cynnar ynghylch sut y gellid hwyluso’r rhain

-          Mae cymorth amlwg i arweinyddiaeth o'r tu mewn i'r sector iechyd a gofal

-          Mae'r lle iechyd wedi cyflenwi cyllid cyfatebol o 10% i'r prosiect (arian parod neu mewn nwyddau)

-          Mae 10% o gyfanswm y gyllideb wedi'i neilltuo ar gyfer gwerthuso/ymchwil

 

Beth ddigwyddodd?

Gwyddom fod y prosiectau hyn wedi cyrraedd cannoedd o bobl agored i niwed ac wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl. Hyd at fis Mai 2022, nid yw’n glir eto beth yw gwir effaith prosiectau Rhaglen Borthi HARP gan fod llawer o brosiectau’n dal yn mynd rhagddynt ar ôl i HARP ddod i ben wedi iddynt sicrhau cyllid ychwanegol ac ehangu eu partneriaethau.

 

 

Gwyddom fod y prosiectau hyn wedi cyrraedd cannoedd o bobl agored i niwed ac wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl.

Fel tîm, gwelsom werth cynnig cymorth anariannol a mabwysiadu dulliau dysgu. Mae llawer wedi dweud wrthym eu bod wedi cael gwerth aruthrol o’r gofod, y gefnogaeth a’r rhwydweithiau newydd a gynigiwyd gan HARP. Yn wir, mae ein dull cydweithredol o ddysgu, drwy gyfrwng ein gweithdai “grŵp dysgu” HARP, wedi bod yn sail i ddatblygu’r Dull Gweithredu ac Argymhellion HARP. 

Tîm cyflawni Rhaglen Borthi HARP:

Rosie Dow, rheolwr y rhaglen, Nesta

Angela Rogers, cydlynydd, Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Lles Cymru

Jessica Clark, cydlynydd y rhaglen, Nesta

Sofia Vougioukalou, cymrawd ymchwil, Y Lab (Prifysgol Caerdydd)

 

 

Lawrlwythiadau