Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, mae rhaglen Egin HARP yn ymwneud â chydweithio i gynhyrchu - neu ‘hadu’ - y syniadau gwych cychwynnol hynny ac arloesi ar gyflymder.
Yn wyneb Covid-19 roeddem yn gwybod bod angen syniadau a dulliau gweithredu newydd ym maes y celfyddydau ac iechyd.
Roedd rhaglen Egin HARP (ymchwil a datblygu) yn ymwneud â chydweithio i gynhyrchu - neu ‘hadu’ - y syniadau gwych cychwynnol hynny ac arloesi ar gyflymder.
Beth yw rhaglen Egin HARP?
Mae HARP (Health, Arts, Research, People) yn bartneriaeth arloesi rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta) i ystyried sut y gallwn gynhyrchu, tyfu a dysgu am ddatblygiadau arloesol creadigol ac effeithiol sy'n cefnogi iechyd a lles pobl Cymru.
Roeddem yn ceisio dysgu mwy am sut y gall y celfyddydau helpu systemau iechyd a gofal gyda'u heriau mwyaf yn ystod Covid-19.
Roeddem wedi gweithio gyda sefydliadau iechyd i nodi tair her yr oeddent yn eu hwynebu. Cawsant eu paru â chwe artist (dau i bob tîm) i weithio gyda nhw i gynhyrchu a datblygu syniadau creadigol newydd i'w helpu i ymateb i’w heriau.
Pwy oedd y sefydliadau iechyd a beth oedd yr heriau a gyflwynwyd?
Gwnaethom weithio gyda thri thîm ar yr heriau iechyd a gofal canlynol:
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Ali Goolyad ac Eric Ngalle Charles: Yn adrodd stori gweithwyr gofal iechyd Du yn ystod y pandemig
- New Pathways, Jain Boon a Matilda Tonkin- Wells: yn adeiladu gwydnwch goroeswyr treisio a cham-drin rhywiol ledled Cymru
- Cyngor Sir Dinbych, Steffan Donnelly a Mari Gwent: Yn cefnogi staff gofal rheng flaen ar draws Sir Ddinbych i reoli straen pandemig Covid-19
Ar ôl ffurfio’r timau, daethant at ei gilydd yn rheolaidd trwy weminarau a chyfarfodydd, gyda chefnogaeth Hyfforddwr Herio HARP a Chymrawd Ymchwil Y Lab.
Yn y sesiynau hyn roeddem yn arwain y timau trwy broses ddylunio lle roeddent yn pennu nodau a mapio pwyntiau mynediad ac asedau, cyn cynllunio, treialu a gwerthuso gweithgareddau creadigol newydd i gyflawni eu nodau.
Roedd hyn yn adeiladu ar waith Sbrint HARP yn haf 2020 a gafodd ei hwyluso mewn partneriaeth â thîm People Powered Results Nesta, sy'n canolbwyntio ar raglenni arloesi strwythuredig i gefnogi newid cynhwysol, cydweithredol a chyflym o fewn systemau cymhleth fel gofal iechyd.
Gan fod y rhaglen hon hefyd yn brosiect ymchwil, gwnaethom weithio gyda phob prosiect i arsylwi a mesur canlyniadau ac effaith y rhaglen ar gyfranogwyr a sefydliadau.
Rydym yn gwybod bod arloesi cydweithredol yn arwain at syniadau gwell.
Rydym yn gwybod bod arloesi cydweithredol yn arwain at syniadau gwell. Roedd y man diogel a chefnogol a ddarparwyd gan y rhaglen yn galluogi’r timau i fynd i’r afael â’u her trwy ddefnyddio sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau ar draws y timau Hadu i gael y canlyniad gorau ar gyfer eu sefydliad a'u pobl.
Ariannu
Rhoddwyd grantiau o £3,000 i'r artistiaid ar y timau herio. Roedd cyllid hadu ychwanegol hefyd ar gael i leoedd iechyd gomisiynu artistiaid a phrofi syniadau ar ôl eu datblygu.
Beth ddigwyddodd?
Llwyddodd y tri thîm i dreialu prosiectau creadigol, gyda chanlyniadau addawol.
Roedd angen y gwaith hwn oherwydd llwyddodd Egin fynd i lefydd lle nad oedd y gefnogaeth bob amser yn cyrraedd y bobl. Drwy’r rhaglen Egin HARP, fe wnaethom ddysgu bod y celfyddydau yn gallu ategu, gwella a chyfoethogi gwasanaethau gofal iechyd mewn ffyrdd unigryw a chraff. Gall hyn helpu pobl i gael gwell profiadau wrth ddod i gysylltiad â gwasanaethau iechyd, i leisio eu barn ac i ofyn am gymorth sydd wir ei angen.
Roedd Egin wedi dangos bod arloesedd yn gweithio orau pan oedd artistiaid a phartneriaid iechyd yn barod i wrando ar ei gilydd a dathlu eu gwahaniaethau. Er mwyn i fuddsoddwyr ac arweinwyr iechyd a gofal ddod o hyd i atebion newydd mewn meysydd anodd, efallai y dylent ystyried yr hyn y gall creadigrwydd a safbwyntiau newydd ei gynnig.
I glywed barn y tîm HARP am y rhaglen Egin, darllenwch fwy yma.
Tîm cyflawni Rhaglen Egin HARP:
Rosie Dow, rheolwr y rhaglen, Nesta
Charlene Stagon, uwch ymgynghorydd, People Powered Results
Jessica Clark, cydlynydd y rhaglen, Nesta
Sofia Vougioukalou, cymrawd ymchwil, Y Lab (Prifysgol Caerdydd)