Karin Diamond, arweinydd prosiect SPARK a Chyfarwyddwr Artistig Re-Live, yn myfyrio ar ei phrofiad o gynnal prosiect Life Story ar gyfer oedolion hŷn ar-lein yn ystod pandemig...
Mae'r pandemig wedi cael effaith eithafol ar les oedolion hŷn yn ein cymunedau.
Mae hyd at draean ein poblogaeth hŷn yn adrodd eu bod yn teimlo'n bryderus ac yn anniogel y tu allan i'w cartrefi.
Felly, ym mis Ebrill 2021, gwnaethom lansio prosiect SPARK (Social Participatory Arts Research & Knowledge/Ymchwil & Gwybodaeth Celfyddydau Cyfranogiad Cymdeithasol), partneriaeth rhwng Re-Live, Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, a Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys.
Roedd y prosiect, a gefnogwyd gan HARP, yn cysylltu oedolion hŷn a brofai ynysigrwydd ac unigrwydd er mwyn creu cymuned greadigol newydd ar-lein. Gwnaethom weithio ochr yn ochr â phobl sy'n byw â chyflyrau iechyd meddwl cymhleth, dementia a dibyniaeth.
Y grefft o sgwrsio
Mae SPARK yn gwahodd cyfranogwyr i rannu straeon eu bywydau a gwrando ar bobl eraill yn rhannu eu straeon. Yn ein sesiwn gyntaf, er enghraifft, gwnaethom wahodd pobl i rannu rhywbeth am eu henwau - naill ai pam cawsant eu galw'n hynny, yr ystyr, a oedd ganddynt lysenw neu a oeddent hyd yn oed yn hoffi eu henwau.
Gwnaeth technegau cychwyn sgwrs syml ysgogi cysylltiadau a gryfhaodd dros y 10 wythnos wrth i'r grŵp archwilio profiadau eu bywydau trwy ddrama, cerddoriaeth, cân a dawns. Trwy rannu ystod o offer creadigol cafwyd hyblygrwydd a dewis yn y modd yr hoffai cyfranogwyr rannu straeon eu bywydau a chyfathrebu eu teimladau, eu anghenion a'u syniadau.
Roedd un o'n grwpiau SPARK i gyd am barhau i gwrdd wedi i'r prosiect 10 wythnos ddod i ben, felly gwnaethom ymestyn y grŵp am 10 wythnos arall. Oherwydd y lefel ddyfnach o ymddiriedaeth, cafodd y cyfranogwyr yr amser a'r lle i archwilio profiadau heriol a phrofiadau heb eu datrys.
Roedd yr effaith ar gyfranogwyr yn gadarnhaol iawn. Mae canfyddiadau ymchwil gynnar yn awgrymu bod SPARK yn lleihau ynysigrwydd ac unigrwydd ar gyfer pobl hŷn ac yn cynyddu lles a hyder trwy brofiad grŵp a rennir.
Nid dibyniaeth ar SPARK yw'r nod. Rydym yn credu bod SPARK yn gallu bod y cam cyntaf tuag at gwell ymdeimlad o alluedd a chysylltiad cymdeithasol ar gyfer oedolion hŷn ynysig.
Roedd un cyfranogwr ag anableddau dysgu, nad oedd yn gadael ei chartref lawer ac yn byw gydag iselder cronig, yn mynnu nad oedd ganddi unrhyw beth i'w gyfrannu ar ddechrau'r prosiect. Wedi 10 sesiwn SPARK rhannodd ei chariad tuag at Elvis a'i bod yn cynllunio taith i gonfensiwn Elvis ym Mhorthcawl.
SPARK yn lleihau ynysigrwydd ac unigrwydd ar gyfer pobl hŷn ac yn cynyddu lles a hyder
Chwalu rhwystrau
Gwnaeth cynnal sesiynau ar-lein yn ystod pandemig gyflwyno heriau.
Roedd mynd ar-lein yn anodd i rai cyfranogwyr, yn enwedig y rhai heb gefnogaeth bersonol. Llwyddais i gynorthwyo un person sy'n byw â dementia i gysylltu â Zoom cyn bob sesiwn. Disgrifiodd y sesiynau fel "rhaff achub".
Hwyluswyd pob sesiwn gan ddau ymarferydd Re-Live i sicrhau arfer diogel a moesegol. Os oedd cyfranogwr angen sgwrs dawel, yna byddai hwylusydd yn gallu gwahodd y cyfranogwr i ystafell rithiol ar wahân i sgwrsio - y fersiwn ar-lein o fynd am dro neu eistedd yn yr awyr agored - tra bod yr ymarferydd arall yn parhau â'r sesiwn.
Roedd Cysylltwyr Cymunedol, sy'n cynorthwyo oedolion i gael mynediad i wasanaethau a gweithgareddau cymunedol, yn hanfodol i nifer o bobl wrth hygyrchu'r grŵp. Roeddent yn helpu gyda phroblemau technolegol ac yn hybu hyder pobl i gymryd rhan mewn galwad Zoom.
Rhoddodd un cyfranogwr orau i fynychu'r grŵp pan na fedrai ei gweithiwr cefnogi barhau i'w helpu i fynd ar-lein, oherwydd galw mawr ar amser y gweithiwr cefnogi. Roedd y sefyllfa hon yn anodd i'r cyfranogwr a'r gweithiwr cefnogi; am eu bod wedi datblygu trefn o eistedd gyda'i gilydd ar ôl pob sesiwn SPARK i drafod eu profiad, a oedd yn cynyddu hyder a chysylltiad rhyngddynt.
Bydd gwasanaethau cefnogi cymunedol yn chwarae rhan allweddol yn unrhyw brosiect SPARK yn y dyfodol. Pan fo'r gefnogaeth yno, gall adeiladu hyder i'r cyfranogwyr gysylltu - hebddo, mae rhai pobl sy'n teimlo'n ynysig yn annhebygol o deimlo'n ddigon hyderus i ymuno â ni.
Adeiladu tystiolaeth ymchwil ar gyfer SPARK
Fel rhan o'n prosiect HARP rydym yn cynnal ymchwil gyda'r nod o archwilio a yw ymyriad SPARK yn helpu i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ymhlith ei gyfranogwyr sy'n oedolion hŷn. Mae'n ystyried sut, pam, ar gyfer pwy ac i ba raddau mae'n gweithio fel bod yr hyn a ddysgir yn cael ei ddefnyddio ar draws Cymru.
Gyda chefnogaeth HARP, ac mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, rydym wedi creu cyfle i fyfyriwr MRes gynnal ymchwil. Mae eisoes wedi bod yn gweithio'n agos gyda Re-Live trwy gydol y prosiect.
Mae'r ymchwilydd yn cynnal adolygiad theori realydd o'n gwaith, gan gyfuno data arsylwi, adborth a meintiol i lunio argraffiadau o'r hyn sy'n digwydd yn ystod y sesiynau. Maent yn adeiladu model rhesymeg ar gyfer SPARK y gallwn ei ddefnyddio i ddylunio ymchwil y dyfodol.
Cadw celfyddyd ac iechyd ar gyfer y mwyaf diamddiffyn yn y dyfodol
Oherwydd effaith gadarnhaol y prosiect ar iechyd a lles y cyfranogwyr, ein gweledigaeth ar gyfer SPARK yw ei fod yn dod yn ymyriad rhagnodi cymdeithasol sydd ar gael ledled Cymru.
Mae angen sawl peth yn ei le er mwyn i hynny fod yn bosibl.
Yn gyntaf, mae SPARK wedi amlygu'r angen am fframwaith arfer gorau ar gyfer gweithio'n greadigol gyda grwpiau diamddiffyn, ar gyfer ymarferwyr creadigol, rhagnodwyr cymdeithasol a chysylltwyr cymunedol.
Yn ail, mae adeiladu'r sail dystiolaeth ar gyfer ehangu'n gwaith yn y dyfodol yn hanfodol.
Hoffem ganfod yr adnoddau a'r amser i'n arfarnwr ymchwilio i sampl mwy o gyfranogwyr i bennu'n well y budd o'n buddsoddiad ac i arddangos effaith tymor hwy y gwaith hwn ar fywydau pobl.
Mae'n bwysig ein bod yn parhau i ddylunio a chyflwyno ymagweddau an-fferyllol i gefnogi iechyd a lles oedolion hŷn yng Nghymru. Rydym wedi gweld yr effaith drawsnewidiol y gall y celfyddydau ei chael ar bobl sy'n profi ynysigrwydd ac unigrwydd. Mae ariannu tymor hir ar gyfer ymyriadau celfyddyd ac iechyd yn hanfodol i iechyd a lles ein cenedl, ac yn hanfodol wrth leihau'r baich ar ein GIG a'r systemau gofal cymdeithasol.
Mae SPARK yn bartneriaeth rhwng Re-Live, Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr a Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys.
Am fwy o wybodaeth ewch i/cysylltwch â www.re-live.org.uk
Simple conversation starters sparked connections that deepened over the 10 weeks