Esyllt George, Cydlynydd Celfyddyd ac Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn trafod rhoi prosiect aml-bartneriaeth HARP, Seren, ar waith.

 

Yn sgil y pandemig adeiladwyd ysbyty maes dros dro ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac roedd celfyddyd ac iechyd yn elfen allweddol o'i ymagwedd at helpu pobl hŷn i adfer wedi COVID-19. Mae ymchwil yn awgrymu y gellir defnyddio celfyddyd i wella trawma emosiynol, cynyddu hunanymwybyddiaeth, lleihau symptomau a chyfnodau mewn ysbyty, a chynnig lle i gysylltu'n gymdeithasol. 

Cydnabu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fod nifer o gleifion yn Ysbyty y Seren wedi profi trawma ac yn ddryslyd wedi bod i'r ysbyty gyda COVID-19. 

Aethom ati i sicrhau bod lles emosiynol cleifion yn cael ei flaenoriaethu tra yn yr ysbyty trwy raglen o weithgareddau creadigol. Sylwom bod angen i ni ddatblygu'r rhaglen hon wrth i gleifion fynd adref ac yn ôl i'w cymunedau, felly dyma lunio cynllun 'rhyddhau creadigol'. 

Galluogodd y cynllun hwn i gleifion gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol o'r ysbyty i gychwyn, ac wedyn gallent barhau yn eu cymunedau wedi mynd adref. Gwnaethom gynnig cyfres o weithdai ac ymyriadau i gleifion a staff yn Ysbyty y Seren. Roeddent yn seiliedig ar ddyluniad model rhagnodi cymdeithasol i gefnogi lles cleifion mewn ysbytai cymunedol ac wrth iddynt gael eu hail-gyflwyno i'r gymuned wedi iddynt adael yr ysbyty. 

Gwnaethom bartneriaeth gyda Tanio, sefydliad trydydd sector yn darparu gweithgareddau creadigol yn y gymuned leol, ynghyd â phedwar artist llawrydd yn arbenigo mewn amrediad o gyfryngau creadigol yn cynnwys celfyddyd gweledol, ysgrifennu creadigol, cerddoriaeth, a symud ar gyfer lles. Eu henwau oedd Sue Hunt, Uschi Turoczy, Glen Manby a Roisin Murphy Mortimer.

Gyda'n gilydd, aethom ati i gynllunio gweithgareddau a gweithdai ar gyfer cleifion a staff gyda'r nod o'u galluogi i gysylltu â'i gilydd yn yr ysbyty ac yn y gymuned, gan drawsnewid agweddau ar eu profiadau i wella eu lles a gwella ansawdd eu bywydau. 

Ymhlith y gweithgareddau roedd sesiynau 'cerddoriaeth ac atgofion' gan Glen Manby a pheth chwarae sacsoffon byw yng ngardd y Seren pan oedd y tywydd yn addas. Cafwyd hefyd weithdai celfyddydau aml-ddisgyblaethol yn Ardal Les yr ysbyty. Aeth yr artistiaid ati i greu pecyn lles y celfyddydau gyda Tanio yn seiliedig ar ymyriadau creadigol y gwnaeth y cleifion gymryd rhan ynddynt tra yn yr ysbyty, a gwnaeth Tanio anfon copi atynt wedi iddynt fynd adref. 

Roedd y pecyn yn cynnwys adnoddau celf a chyfarwyddiadau, ynghyd ag offeryn gwerthuso creadigol i fesur lles y cyfranogwr cyn ac ar ôl y gweithgaredd. 

Byddai cydlynydd lles celfyddydau Tanio yn cysylltu â chyfranogwyr dros y ffôn wedi iddynt ddychwelyd i'r gymuned i holi am eu diddordebau ar gyfer y dyfodol, eu anghenion ac i drafod defnyddio'r pecyn lles fel modd i gynorthwyo trosglwyddo'n ôl i'w cartrefi neu i amgylchedd gofal cartref. Byddai'r drafodaeth, a adeiladwyd o amgylch y berthynas rhwng yr unigolyn a Tanio, hefyd yn cynnwys awgrymiadau gan y cydlynydd am grwpiau neu fudiadau cymunedol i barhau â gweithgareddau creadigol. 

Gwnaeth ein rhaglen HARP Nourish hefyd drafod yr angen brys am gymorth i staff yr ysbyty yn ystod y pandemig. 

Gwnaethom gomisiynu ystod o artistiaid ar gyfer prosiectau yn canolbwyntio ar staff. Roedd hyn yn cynnwys cyfansoddiadau cerddorol pwrpasol ar gyfer gweithdai ynghylch ‘Finding hope within loss and bereavement’ a gyfansoddwyd gan Harmoni Cymru, a thaflen gweithgaredd creadigol a ddyluniwyd gan Cooked Illustrations a oedd yn annog staff i gymryd hoe 10 munud ynghanol natur bob dydd. Cafwyd hefyd sesiynau dawns, symud, celfyddydau gweledol ac ysgrifennu creadigol pwrpasol  yn ystod y diwrnod gwaith a gyda'r hwyr.

The difference creative activities have made to patients' and staff wellbeing makes any challenges worthwhile

Heriau a llwyddiannau

Dysgwyd sawl peth o'r prosiect hwn. 

Oherwydd ei natur aml-asiantaeth cafwyd heriau gweinyddol i gychwyn, wrth i ni geisio cydlynu amrywiaeth o bobl i gydweithio'n effeithiol. Roedd hyn yn cynnwys cynhyrchu ffurflenni casglu data a chaniatâd, a dylunio prosesau a fyddai'n caniatáu i ysbytai a sefydliadau cymunedol gysylltu â phobl wedi iddynt adael yr ysbyty. 

Aeth rhai cleifion i gartrefi gofal wedi gadael yr ysbyty, ac roedd cynnal cysylltiadau gyda rhai unigolion yn fwy heriol na'r disgwyl. Yn allweddol i hyn oedd cynnal cysylltiadau cryf rhwng staff clinigol, yr artistiaid yn yr ysbyty a Tanio. 

Mae'r gwahaniaeth mae gweithgareddau creadigol wedi'i wneud i les mewngleifion a staff yn gwneud yr heriau'n werth yr ymdrech. 

Yn ôl mwyafrif y cyfranogwyr yn y prosiect cafodd gweithgareddau creadigol er lles effaith gadarnhaol sylweddol ar eu diwrnod a'u helpu i ddatblygu perthnasoedd gydag eraill. 

Mae nifer wedi bod yn awyddus i rannu am eu profiad gydag eraill am eu bod yn teimlo'n llawer gwell. Gwelodd y staff nyrsio newidiadau cadarnhaol yn y cleifion wedi iddynt gymryd rhan mewn gweithdai creadigol, a gwnaeth eu rhyngweithio cymdeithasol wella. 

Gwelodd y staff hefyd effaith gadarnhaol y gweithdai creadigol ar eu lles, a phenderfynodd un cyfranogwr staff, wedi ei phrofiadau, gyflawni cwrs hyfforddi celfyddyd ac iechyd ei hun yn y brifysgol.

Darparu tystiolaeth ar gyfer y dyfodol

Ein nod yw bod gwersi a chanfyddiadau prosiect HARP yn grymuso'r Bwrdd Iechyd i barhau i archwilio potensial y celfyddydau i gefnogi iechyd a lles cleifion, gan gynnwys datblygu strwythurau ar gyfer gofal rhagnodi creadigol a chymdeithasol. 

Mae arfarnwr allanol yn ysgrifennu adroddiad am ddeilliannau'n prosiect, a fydd yn cael ei ledaenu ymhlith y Bwrdd Iechyd a'n partneriaid. 

Mae pwysigrwydd partneriaethau a chydweithio rhwng y Bwrdd Iechyd, sefydliadau trydydd sector ac artistiaid wedi cael ei ddogfennu a'i hyrwyddo ar gyfer y dyfodol. 

Hoffem ehangu ein hymagwedd 'rhyddhau creadigol' i gynnwys mwy o sefydliadau ac ardaloedd o fewn Cwm Taf Morgannwg. 

Gyda mwy o amser ac adnoddau, hoffem hefyd gynnwys rhwydwaith ehangach o sefydliadau yn y rhaglen, gan gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol, a nodi person cyswllt allweddol ym mhob sefydliad a fyddai'n gyfrifol am reoli cyfathrebu a pherthnasoedd. 

Yn fy rôl fel Cydlynydd Celfyddyd ac Iechyd ar gyfer y Bwrdd Iechyd, rwyf bellach yn gweithio gyda meddygfa ynghylch rhagnodi cymdeithasol, cynyddu hyder gofal cychwynnol mewn celfyddydau cymunedol a defnyddio fy mhrofiad prosiect HARP.

Byddai'n braf gweld arian craidd ar gael yn flynyddol ar gyfer rhagnodi cymdeithasol yn y dyfodol, i sicrhau parhad gofal.
 

Roedd Seren yn brosiect HARP Nourish aml-bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a phartneriaid celfyddydol Tanio, Sue Hunt ac Uschi Turoczy.