Lleihau stigma ac ynysigrwydd goroeswyr trais a cham-drin rhywiol ledled Cymru. Sylwadau gan Jennie Dowsell, Peter Griffiths, Helen Jenkins a Mike Wilkinson o New Pathways, ynghyd â’r artistiaid Jain Boon a Matilda Tonkin-Wells…
 

Roedd perygl i bandemig Covid-19 a’r cyfyngiadau cymdeithasol cysylltiedig greu rhagor o rwystrau a fyddai’n atal pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin rhywiol rhag cael cefnogaeth.

Roedd New Pathways, sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i gefnogi dioddefwyr trais rhywiol o bob oed yng Nghymru, yn poeni y gallai’r pandemig achosi i oroeswyr deimlo hyd yn oed yn fwy ynysig. 

Nod New Pathways erioed yw helpu i leihau stigma ac annog pobl i gychwyn ‘sgyrsiau anodd’ yn gynharach er mwyn cael y gefnogaeth y mae arnynt ei hangen. 

Dros nos bron iawn collwyd rhwydweithiau cefnogi rheolaidd, ynghyd ag arferion rheolaidd a strategaethau ymdopi a oedd wedi helpu i gadw pobl yn ddiogel cyn hyn, ac fe wnaeth hyn ein cymell i edrych ar ffyrdd amgen o gysylltu â phobl. 

Roeddem hefyd yn awyddus i edrych sut y gallai’r celfyddydau helpu’r rhai hynny a oedd yn defnyddio cefnogaeth New Pathways i deimlo’n fwy sefydlog ac yn llai ynysig.

Roeddem yn gobeithio y byddai defnyddio dull hyrwyddo amgen yn annog pobl yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn fwyaf arbennig i fanteisio ar wasanaethau a chefnogaeth New Pathways, gan fod ymwybyddiaeth a defnydd o’n darpariaeth yn parhau’n isel yno.

 

Mae’r broses wedi bod yn llawer iawn mwy na’n disgwyliadau ac mae wedi ein harwain i feddwl yn fwy creadigol am ein gwasanaethau

Mike Wilkinson, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, New Pathways

Edrych ar ffyrdd o gynyddu’r defnydd o’r gefnogaeth yng Nghanolbarth Cymru

Buom yn trafod sut y gallem ddefnyddio creadigrwydd i archwilio profiadau cleientiaid blaenorol a’r cleientiaid presennol o gysylltu â New Pathways. Roedd arnom eisiau gwybod sut y gellid gwneud y siwrnai honno’n haws gan obeithio y byddai hynny’n cael mwy o bobl yng Nghanolbarth Cymru i ddefnyddio ein gwasanaethau.

Am chwe wythnos, buom yn edrych ar siwrneiau grŵp o gleientiaid drwy weithgareddau creadigol yn seiliedig ar chwarae, gweithredu difyfyr a thasgau, gan gasglu syniadau ynglŷn â sut y gallem ysbrydoli pobl eraill i ddod ymlaen. 

Canlyniad hyn oedd bod y grŵp wedi creu arddangosfa ar-lein â’r teitl ‘Negeseuon o Obaith’. Mae’r gwaith celf yn cynnwys cerddi, peintiadau, lluniadau, llythyrau atom ni ein hunain a recordiadau llais. 

Yna fe wnaethom gyd-greu ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol ac ym mhapurau newydd Canolbarth Cymru i godi ymwybyddiaeth leol o’r wefan. 

 

Mae cael gweld creadigrwydd pobl yn blodeuo… yn bleser i unrhyw artist a byddwn yn gwneud y cyfan eto heb unrhyw amheuaeth.

Matilda Tonkin-Wells, Artist Dawns/Seicotherapydd Dawns

Er mwyn ceisio cael mwy o atgyfeiriadau i’n gwasanaethau, fe wnaethom ni hefyd geisio codi ymwybyddiaeth o’r elusen ymhlith sefydliadau eraill yng Nghanolbarth Cymru.

Roedd y canlyniadau’n gadarnhaol iawn.

Cawsom adborth da gan y bobl y buom yn gweithio â hwy, a oedd yn bwysig i ni, ac roeddem yn falch fod atgyfeiriadau yn y Drenewydd wedi cynyddu 47 y cant rhwng haf a hydref 2021, o 55 i 81. Cynyddodd atgyfeiriadau yn Aberystwyth 32.5 y cant, o 43 i 57.  

Er na allwn fod yn sicr bod hyn o ganlyniad i Negeseuon o Obaith, mae’r niferoedd yn anarferol ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn, felly rydym yn cymryd bod yr arddangosfa wedi cyfrannu tuag at y cynnydd. 

Mae hyn mor galonogol ac rydym yn falch fod mwy o bobl yn cael cefnogaeth gennym nawr.

Dysgu o’n profiad o ‘Negeseuon o Obaith’

Mae cleientiaid New Pathways yn adnodd da a thrwy weithio gyda nhw ar gyfer Negeseuon o Obaith, fe wnaethon ni helpu cleientiaid newydd i ddarganfod manteision defnyddio ein cefnogaeth ynghyd â darparu mecanwaith cefnogi creadigol newydd i’n cleientiaid presennol.

Fe wnaethom ddarganfod, â mesurau diogelu priodol mewn grym, y gall prosiectau fel hyn gynnig profiad creadigol cadarnhaol a chathartig yn aml i bobl sydd wedi profi trais rhywiol. Yn wir, drwy gynnig math arall o gefnogaeth i gleientiaid, credwn y gallai gweithgareddau celfyddydol sicrhau nad yw gwasanaethau eraill yn cael eu llethu. 

Wrth gwrs, gall cydweithio rhwng sefydliadau iechyd ac artistiaid fod yn heriol. Yn fwyaf arbennig, gall gweithgareddau celfyddydol yn y lleoliad hwn herio ffiniau a chanllawiau therapiwtig traddodiadol i bartneriaid iechyd, er enghraifft cwnselwyr. 

Fe wnaeth lefel uchel o ymddiriedaeth rhwng ein cleientiaid, artistiaid a’r tîm New Pathways helpu i oresgyn hyn ond roedd angen cyfathrebu cyson, a sicrhau bod pawb yn gweithio tuag at yr un nodau clir. Roedd fframwaith rhaglen Egin HARP hefyd yn cefnogi’r perthnasoedd cydweithredol rhyngom. Roedd yn cael gwared ar rywfaint o’r risg ac yn caniatáu i ni osod nodau ac arbrofi â syniadau newydd yn fwy diogel.

Roedd y prosiect yn dangos cryfder a gwytnwch anhygoel y cleientiaid.

Peter Griffiths, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned a Hyfforddiant, New Pathways

Ffurfio perthnasoedd newydd

Ar ôl gweld y manteision y mae creadigrwydd yn eu cynnig i’r her hon, mae New Pathways wedi datblygu nifer o bartneriaethau celfyddydau newydd i gefnogi eu portffolio ehangach o waith, gan gynnwys gweithio gyda Jain a Matilda ar brosiectau eraill. 

Gobeithio y bydd y dulliau newydd hyn yn cefnogi uchelgeisiau a chynlluniau’r sefydliad ar gyfer y dyfodol ac yn cael eu hymgorffori yn eu ffyrdd o weithio.

Mae Jain a Matilda wedi cael eu hysbrydoli i ddal i weithio gyda’i gilydd, ac maent yn awr yn y broses o sefydlu cwmni newydd, ThisPLACE, a fydd yn arbenigo mewn hwyluso creadigol sy’n seiliedig ar drawma. Eu nod yw datblygu’r dulliau y buont yn eu profi yn y prosiect hwn â nifer o bartneriaid a lleoliadau newydd. 

Gobeithio y bydd hyn yn golygu y gall llawer mwy o bobl elwa o’r profiadau hyn.


Roedd Negeseuon o Obaith yn bartneriaeth Egin yn cael ei chefnogi gan HARP rhwng New Pathways a’r artistiaid llawrydd, Matilda Tonkin Wells a Jain Boon.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Negeseuon o Obaith.