Suzy West, Cyfarwyddwr Gweithredol elusen dawns Impelo, yn myfyrio ar daith ddiddorol prosiect HARP, Joio...

Disgwylir i'r pandemig gael effaith hir dymor ac eang ar bobl â dementia

Effaith newidiadau dramatig i arferion a phryder cynyddol oedd gwaethygu symptomau  ac effeithio'n negyddol ar iechyd a lles emosiynol pobl sy'n byw gyda'r cyflwr, ynghyd â pherthnasau a gofalwyr proffesiynol. 

I'w cefnogi drwy'r cyfnod hwn, yn 2021, a gyda chefnogaeth HARP, gwnaeth mudiad dawns cymunedol Impelo bartneru gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Materion Dementia ym Mhowys, i ddatblygu ac adeiladu'r sail dystiolaeth o amgylch 'Joio'. 

Rhaglen ddawns ar-lein ac wyneb yn wyneb a gyd-ddyluniwyd yw 'Joio' ar gyfer pobl hŷn sy'n byw gyda phroblemau cof a'u gofalwyr. Ei nod yw eu helpu i fod yn hapus, yn iach ac yn gymdeithasol gysylltiedig trwy ddawns. 

Mae'r ymchwil yn anghyson - rhai yn awgrymu bod therapi dawns yn gweithio yn erbyn lles gwybyddol, corfforol, emosiynol a chymdeithasol pobl â dementia, ac eraill yn nodi ei effaith gadarnhaol. Nid oes digon o dystiolaeth am elfen greadigol dawns yn hytrach na'r elfen gorfforol er mwyn effeithio ar hyn ac roeddem am ychwanegu at y dystiolaeth honno. 

 

Yn Impelo, rydym wedi bod yn gweithio gyda phobl hŷn â dementia a heriau cofio ers blwyddyn, ond roeddem am gynyddu yr hyn gallem ei gynnig drwy bartneriaeth a chyd-ddylunio rhaglen gyda chyfranogwyr a'u gofalwyr a fyddai'n para ac wedi'i wreiddio'n gadarn mewn dysgu beth oedd yn gweithio i bwy ac o dan ba amgylchiadau. 

Roeddem yn bwriadu cynnal sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb gyda phobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr, a gweithio gyda ward dementia mewn ysbyty lleol. 

Roeddem yn awyddus i ddefnyddio HARP i sefydlu deilliannau Joio ar wella symudedd ac ansawdd bywyd. Roeddem am ddeall a fyddai cynnal y dosbarthiadau, ar-lein ac wyneb yn wyneb, yn arwain at bobl yn byw'n annibynnol, yn hapus ac yn fwy iach yn hwy.

 

I gychwyn, cynhaliom sesiynau ar-lein wythnosol ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr ym Mhowys. Rhoddwyd technoleg i'r rhai a oedd ei hangen gan Cymunedau Digidol Cymru a helpodd Materion Dementia ym Mhowys y cyfranogwyr a'u gofalwyr i fewngofnodi i'r sesiynau. Cafodd y gofalwyr hefyd eu 'uwch-sgilio' er mwyn iddynt allu cynnal eu sesiynau bychain eu hunain.

Delio gyda'r annisgwyl

Nid aeth pethau yn ôl y disgwyl. 

Aethom ati i gysylltu â'r bwrdd iechyd er mwyn dechrau adeiladau perthynas â wardiau priodol, megis y rhai sy'n rheoli clinigau cwympiadau a chlinigau colli cof. Ond roedd magu perthynas gyda'r bwrdd iechyd yn ystod pandemig yn heriol. 

Roedd y rhaglenni celfyddyd ac iechyd yn bethau gweddol newydd i'r bwrdd iechyd, ond roeddem wedi nodi a datblygu perthynas dda gyda rheolwr a oedd yn eiriolwr celfyddyd ac iechyd ac a gredai yn ein rhaglen.

Fodd bynnag, pan aeth y rheolwr ar absenoldeb penagored am resymau personol daeth cynnal momentwm i barhau yn heriol. 

Roedd eu cydlynydd celfyddyd ac iechyd rhan amser yn gefnogol, ond roedd ei adnoddau a'i allu'n gyfyngedig gyda'r bwrdd iechyd mewn modd 'pwysig i'r busnes', a llwybrau cyfeirio wedi'u torri oherwydd y pandemig. Roedd y staff yn agored i'n rhaglen, gan gynnwys y rhai yn y gwasanaethau atal cwympo, ond nid oedd ganddynt yr amser na'r gallu i ymwneud â'r rhaglen. Ymddengys nad dyma'r adeg iawn ar gyfer arloesedd. 

Roedd pethau hefyd yn symud yn fwy araf na'r disgwyl o fewn y strwythur iechyd ffurfiol. 

Gwnaethom fwrw ati gyda'r sesiynau ar-lein, gyda 90 y cant o'r cyfranogwyr yn adrodd bod eu lles meddyliol wedi gwella. 

Ond roedd hi'n amlwg nad oedd y bobl a oedd yn byw gyda dementia na'u gofalwyr yn gallu delio â thechnoleg fel yr oeddem wedi'i obeithio, hyd yn oed gyda'r gefnogaeth drwy ein sefydliadau partner. 

Cafodd ein cynlluniau i gynnal sesiynau wyneb yn wyneb yng nghanolfannau Materion Dementia ym Mhowys eu cwtogi gan y pandemig, gyda nifer o'r canolfannau ar gau am oes y prosiect. Talodd yr ymdrech benderfynol i agor y canolfannau cyfarfod hynny unwaith eto ar ei ganfed, er gwaethaf cyllid ansicr Materion Dementia ym Mhowys, a dechreuom o'r diwedd weithio gyda pobl wyneb yn wyneb ym mis Rhagfyr cyn i amrywiolyn Omicron Covid-19 gau canolfannau unwaith eto.

Roeddem wedi gobeithio cynnal Joio a dadansoddi ei effaith economaidd, gan ddefnyddio dadansoddiad effaith economaidd i eirioli llwybr cyfeirio gan y bwrdd iechyd a chyllid cynaliadwy. 

Ond daeth yn amlwg iawn nad oeddem yn mynd i gael sampl data digon o faint i roi'r dystiolaeth roedd ei hangen arnom, felly dyma ailfeddwl ein gwerthusiad. 

 

O her i gyfle

Mae Impelo yn ymagwedd ac yn ysbryd entrepreneuraidd, felly rhoesom sylw i'r adnoddau a'r perthnasoedd y gwyddem y gallem eu magu. 

Rydym yn credu mewn prosesau sy'n wirioneddol roi'r cyfranogwr yn y canol. Er na allem weithio ar wardiau dementia nac yn y clinigau atal cwympo yn ystod oes y prosiect, fe wnaethom weithio gyda'u ffisiotherapyddion i ddatblygu methodoleg sydd yn aml ag elfen greadigol gref ar goll o brosiectau dawns ar gyfer pobl hŷn, yn benodol y rhai hynny â dementia. Mae'r fethodoleg yn barod i'w chyflwyno. 

 

Rydym yn credu mewn prosesau sy'n wirioneddol roi'r cyfranogwr yn y canol

Rydym wedi ymgeisio am arian gan HARP am ein bod am ddysgu am ymchwil, tystiolaeth a gwerthuso. Gyda cyd-ddysgu cymheiriaid trwy HARP, mewnbwn gan gyfranogwyr Joio, cyngor gan bartner HARP Prifysgol Caerdydd, a chyngor gan brifysgolion Abertawe a Bangor, gwnaethom ddatblygu ymagwedd cyd-ddyluniedig Impelo at werthuso celfyddyd ac iechyd yn gyffredinol. Roedd cymryd rhan yn hwyl i bobl ac roedd yn cynnwys cydsynio, safoni a moeseg cadarn i sicrhau hygrededd wrth gywain tystiolaeth o effaith Joio ar hapusrwydd a chysylltiad cymdeithasol pobl.

Dyma droi ein sylw at werthuso'r broses, yn bennaf, sut orau i ddatblygu a chyflwyno ein prosiect yn y dyfodol, oherwydd ein bod wedi dysgu cymaint o'n profiad gwerthfawr. Rydym hefyd wedi datblygu egwyddorion gweithio, a hynny heb fwriadu, ond serch hynny sy'n ddefnyddiol ac yn atgyfnerthu sut rydym yn ymgysylltu â phobl trwy ddawns i greu newidiadau iechyd cadarnhaol.

 

Bydd llawer o'r hyn yr oeddem am ei wneud yn cael eu cyflawni yn y misoedd i ddod. 

Trwy'r prosiect hwn, rydym wedi datblygu'r seiliau, os nad y dystiolaeth yr oeddem wedi gobeithio amdani, i ehangu ein gwaith. 

Mae gennym berthynas weithio ragorol gyda Materion Dementia ym Mhowys. Gwelsant werth y dadansoddiad effaith economaidd ac rydym yn chwilio am gyllid i ni wneud hynny gyda'n gilydd. Rydym hefyd yn rhan o brosiect y Deyrnas Unedig gyfan yn edrych ar ddarpariaeth wledig i bobl sy'n byw gyda dementia. 

Ac mae ein henw da gyda'r bwrdd iechyd yn ffynnu. Fe'm comisiynwyd i gynnal cynhadledd celfyddyd ac iechyd ynghyd â prosiect cancr, sy'n arddangos ymddiriedaeth sy'n tyfu. 

Rydym hefyd yn gobeithio bydd Impelo yn partneru gyda phrosiectau eraill HARP yn y dyfodol, megis Digital Threads, sy'n cynnig gweithdai canu i bobl sy'n byw gyda dementia yn yr ysbyty. 

Roedd Joio yn brosiect Nourish HARP aml-bartneriaeth rhwng mudiad dawns ImpeloBwrdd Iechyd Addysgu PowysMaterion Dementia ym Mhowys