Johan B. Skre, Rheolwr Celf ar Bresgripsiwn ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yn trafod gwersi a ddysgwyd o brosiect HARBWR...
Gwnaeth pandemig Covid-19 a'r mesurau ymbellhau cymdeithasol dilynol roi straen a galw ychwanegol anferth ar wasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru, gan gynnwys yng Nghymru.
Hyd yn oed cyn i'r feirws gyrraedd roedd rhestrau aros hir am asesiadau, ac roedd elusennau iechyd a gwasanaethau cymunedol yn gweithredu y tu hwnt i'w gallu, ac roedd y gwasanaethau dan bwysau.
Gyda chefnogaeth HARP, yng ngwanwyn 2021, ymunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gydag artistiaid lleol, sefydliadau celfyddydol, y trydydd sector, ac awdurdodau lleol i geisio datrys rhai o'r heriau hynny trwy HARBWR - gwasanaeth Celf ar Bresgripsiwn newydd.
Nod ein system gyfeirio yw cynnig ystod o weithgareddau celfyddydol cymunedol presennol i bobl sy'n profi problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol.
Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys Dance to Health, rhaglen a luniwyd gan Aesop Arts and Society i helpu i wella neu gynnal cryfder a chydbwysedd pobl ac atal cwympiadau; côr lles; a Rengarific, arfer cydweithredol lle mae pobl yn creu cadwyni o waith celfyddyd ('rengas') a ysbrydolwyd gan waith ei gilydd ('riffs'). Datblygwyd a phrofwyd Rengarific drwy HARP Sprint yn haf 2020.
Goresgyn heriau cyfeirio cynnar
I gefnogi cyfeiriadau, gwnaethom gysylltu gyda rhagnodwyr cymdeithasol newydd i'w swyddi gyda'r bwrdd iechyd a lansio gwefan.
Er bod cyfeiriadau wedi cyrraedd, roedd gan lawer ohonynt anghenion i gychwyn a oedd yn galw am lefel uwch o gefnogaeth na fedrem ei chynnig.
Felly, i gyrraedd pobl ar yr adeg gywir yn eu taith iechyd, gwnaethom edrych y tu allan i'r bwrdd iechyd hefyd, gan gydnabod y gallai darparu cefnogaeth gynnar i bobl yn y gymuned sy'n profi ynysigrwydd neu heriau iechyd meddwl ysgafn eu hatal rhag angen gofal mwy helaeth nes ymlaen.
Gwnaethom gysylltu gydag amrediad o bartneriaid, gan gynnwys cydlynwyr ardal lleol; rhagnodwyr cymdeithasol yng Nghastell-nedd Port Talbot; Canolfan Gofalwyr Abertawe, sy'n cefnogi degau o filoedd o ofalwyr di-dâl a chyn-ofalwyr; Dinas Noddfa Abertawe, sefydliad sy'n cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid; a meddygfeydd teulu.
Ers hynny rydym wedi cefnogi 25 o bobl i fynychu grwpiau Rengarific, ynghyd â mwy na 50 o bobl drwy ein sesiynau côr lles, a hyd at 70 o bobl wedi'u cyfeirio i Dance to Health.
Dywedodd un cyfranogwr Rengarific a fu'n dioddef galar ei bod yn gallu nodi a mynegi sut roedd hi'n teimlo drwy'r sgyrsiau gyda dieithriaid ynghylch ffotograffiaeth a chelfyddyd. Ac mae'r sesiynau côr a dawns yn parhau i gael effeithiau cymdeithasol a chorfforol cadarnhaol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gydag Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Prifysgol De Cymru i werthuso'r gwaith, gan ganolbwyntio ar a yw'r gweithgareddau celfyddydol yn gwella iechyd meddwl a lles, ac yn atal yr angen am fwy o ofal GIG.
Rhannu gwersi a ddysgwyd
Er gwaethaf gweithio yn y bwrdd iechyd, gwnaeth cyflwyno'r model gofal newydd hwn yn ystod pandemig ddarparu cyfoeth o wersi ychwanegol ar gyfer y dyfodol.
Mae'r GIG yn sefydliad mawr gyda phrosesau gweinyddol sy'n cymryd amser i’w dysgu a’u llywio, a gwnaeth y pandemig ychwanegu haen arall o gymhlethdod. Mae nodi'r rhai a all hyrwyddo'ch gwaith a'ch arwain drwy'r systemau llunio penderfyniadau yn allweddol.
Er i ni greu rhai gweithgareddau celfyddydol newydd ar gyfer y prosiect hwn, gwnaethom hefyd nodi gweithgareddau cymunedol a gynhaliwyd yn dda ac a gofnodwyd yn fuddiol ac yn ddiogel i bobl gyda'r cyflyrau rydym yn eu targedu, eu cysylltu â chyfeirwyr perthnasol yn y system iechyd, a'u cefnogi i gynyddu eu gallu neu gyrraedd. Yn achos côr lles Abertawe, er enghraifft, gwnaethom dalu am hurio ystafell a phump apwyntiad cyfeirio.
Fel gydag unrhyw driniaeth neu ymyriad, mae byrddau iechyd yn gofyn i chi brofi pam fod gweithgaredd celfyddydol werth chweil a sut mae o fudd i gleifion. Felly, mae cymryd yr ymagwedd hon wedi bod yn effeithiol o ran amser ac wedi cefnogi mentrau cymunedol sy'n bodoli yn ystod amser anodd.
Mae diogelu cefnogaeth gan, a datblygu perthnasoedd llawn ymddiriedaeth gyda a rhwng, partneriaid cymunedol hefyd yn bwysig ac yn gweithio'n dda.
Adeiladu dyfodol celfyddyd ac iechyd Abertawe
Ein huchelgais yw llunio model celf ar bresgripsiwn i'w ymgorffori yn y bwrdd iechyd a sicrhau'r gefnogaeth a'r cyllid angenrheidiol i barhau â'n prosiect y tu hwnt i HARP.
Gan fod sefydlu'r prosiect wedi cymryd yn hwy na'r disgwyl, rydym yn cario ychydig o gyllid HARP drosodd i gynnig gweithgareddau drwy ein llwybrau cyfeirio newydd. Yn y tymor hir, ein nod yw datblygu cynnig gwasanaeth ar gyfer y gwaith wedi'i ariannu'n rhannol gan y bwrdd iechyd.
Rydym wedi cynllunio cyfarfodydd gyda meddygfeydd teulu lleol i rannu mwy o wybodaeth am y gwasanaeth a chychwyn cyfeirio o'u meddygfeydd.
Rydym wedi dechrau fforwm y celfyddydau ac iechyd traws-ddisgyblaethol ar y cyd â Rhwydwaith y Celfyddydau mewn Iechyd a Lles Cymru. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym mis Mawrth 2022 yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe. Daeth â phrosiectau celfyddydol ynghyd gyda chysylltwyr cymunedol, rhagnodwyr cymdeithasol a chynrychiolwyr byrddau iechyd i ddatblygu dealltwriaeth traws-ddisgyblaethol a phartneriaethau newydd. Roedd o fudd mawr i'n sector a'n nod yw eu cynnal bob chwarter.
Rydym am ddatblygu'r rhwydwaith cymunedol a'r perthnasoedd angenrheidiol er mwyn i hyn weithio yn y tymor hir.
Rydym hefyd am hwyluso sgyrsiau ynghylch yr hyn sy'n gweithio a beth gellir ei wneud yn wahanol.
Bydd gwersi HARBWR hefyd yn cael eu cymhwyso i "Sharing Hope", prosiect celfyddyd ac iechyd newydd ar draws y byrddau iechyd ar gyfer pob grŵp staff. Ei nod yw amlygu pŵer rhannu straeon a nodi adfer wedi COVID, trawma morâl a dad-stigmateiddio problemau iechyd meddwl.
Byddwn yn parhau i archwilio buddion ymgorffori'r celfyddydau yn ein gwasanaethau.
Mae HARBWR yn adeiladu ar bartneriaethau rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, artistiaid, sefydliadau celf, y trydydd sector, a chynghorau lleol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan HARBWR.