Iori Haugen, cerddor llawrydd, arweinydd côr a hwylusydd cerddoriaeth mewn iechyd; Amanda Griffkin, cyfarwyddwr artistig, Impelo; and Dr Megan Wyatt, artist ac ymchwilydd gwadd, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Y nod: Cefnogi llesiant y teuluoedd a lleihau ynysu drwy eu helpu i gysylltu/cyfathrebu’n well ar-lein, gan oresgyn bylchau rhwng y cenedlaethau a rhwystrau i dechnoleg

Y gweithgarwch: Yn cefnogi teuluoedd lle mae un aelod o’r teulu yn gwarchod ei hun, drwy brosiect celfyddydol sy’n pontio’r cenedlaethau lle mae’r teulu’n cydweithio ar-lein i greu darn o waith ar y cyd sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth, dawns a chelf weledol.

Pa anghenion roeddech yn eu gweld yn y byd a wnaeth eich ysgogi i ymgymryd â her Sbrint HARP?

  • Gwnaethom sylweddoli bod llawer o bobl mewn amrywiaeth o leoliadau a oedd wedi cael eu hynysu ac nad oeddent yn gallu gweld eu ffrindiau a'u teuluoedd na chyflawni tasgau dyddiol arferol mwyach.
  • Roedd pobl yn wynebu risg o golli eu diben ac o deimlo’n ynysig ac yn unig.
  • Roedd pobl yn agos at ei gilydd yn gorfforol ond yn gwbl ar wahân i’w gilydd neu wedi’u rhannu’n ddaearyddol.
  • Roedd rhaniad rhwng yr ystod oedrannau.  Neiniau a theidiau, wyrion ac wyresau, ysgolion.

 

Beth roeddech am ei gyfrannu? Beth oedd eich nodau, eich gobeithion a’ch breuddwydion ar gyfer eich cyfranogwyr?

Hapus – Iach – Cysylltiedig

Roedd y tîm am gysylltu pobl yn greadigol gan ddefnyddio'r celfyddydau, gyda phob un ohonynt yn defnyddio eu sgiliau a'u profiad eu hunain i gydweithio a chreu prosiect diddorol ac ysgogol a fyddai'n cysylltu pobl ifanc a phobl hŷn â'i gilydd.  

Roeddem am roi’r cyfle i bobl roi cynnig ar gelfyddyd newydd a chyffrous gyda’u teuluoedd, drwy greu prosiect pwrpasol sy’n canolbwyntio ar y person, sy’n canolbwyntio ar eu diddordebau a’u huchelgeisiau personol eu hunain.

Beth a wnaethoch, a pham?

Gwnaethom ddatblygu prosiect gweledol, dawns a chanu o'r enw’r 'Gylchfa Gelfyddydau Deuluol': mae gweithiwr dawns proffesiynol, ymarferydd celfyddydau gweledol ac arweinydd côr proffesiynol yn cyflwyno prosiect creadigol pwrpasol a phleserus i deuluoedd na fu modd iddynt weld ei gilydd yn gorfforol yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud / cadw pellter cymdeithasol.

Roedd gennym leoedd i dri theulu gymryd rhan mewn cyfres o bum gweithdy ar-lein dros gyfnod o bedair wythnos, ym meysydd paentio, canu a dawnsio. Gwnaethom weithio gyda dau deulu yn y pen draw; roedd un ohonynt wedi’i wasgaru’n ddaearyddol, gyda’r aelod hynaf yn byw mewn cartref gofal, ac roedd y llall wedi’i ganoli o amgylch unigolyn 16 oed a oedd wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn yn ddiweddar ac yn gwarchod ei hun.  Y nod gyda’r ddau deulu oedd creu rhywbeth gyda’n gilydd, boed yn fideo neu’n ddarn o waith celf, a hynny’n gyfan gwbl o bell, er mwyn eu helpu i gysylltu a chyfathrebu â’u teuluoedd drwy wneud rhywbeth creadigol llawn hwyl gyda’i gilydd.  Cafodd pob gweithgaredd ei addasu a’i deilwra ar gyfer anghenion a diddordebau pob teulu, felly nid oedd angen unrhyw brofiad na diddordeb blaenorol arnynt mewn canu, dawnsio na chelf er mwyn cymryd rhan.

 

Beth ddysgoch chi?

Diben y prosiect hwn oedd arbrofi a dysgu, felly gwnaethom achub ar y cyfle hwn i arbrofi â phethau newydd na fyddem fel arfer yn arbrofi â nhw.  Roedd hyn yn cynnwys defnyddio ffurfiau gwahanol ar gelfyddyd gyda’r un grŵp o bobl, gan weithio o bell gyda’r grwpiau drwy Zoom, gweithio mewn unedau teuluol bach a oedd yn pontio’r cenedlaethau, drwy sefydliadau a chyda phobl nad oeddem yn eu hadnabod yn flaenorol.  Felly, ein nod oedd dysgu am yr holl bethau hyn, yn hytrach na cheisio creu ffordd gwbl newydd o weithio y gellid ei hehangu neu ei lleihau o reidrwydd  (oherwydd gwyddom ar gam cynnar ei bod yn debygol y byddai rhwystrau o ran cost i wneud hynny).

 

Gweithio drwy sefydliadau â phobl nad oeddem yn eu hadnabod yn flaenorol

Er mwyn cael gafael ar gyfranogwyr, roeddem yn ddibynnol iawn ar gydgysylltwyr gweithgareddau cartrefi gofal a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd oherwydd ni allem gysylltu â chyfranogwyr yn uniongyrchol.  Roedd hyn yn broses lafurus; nid oeddem bob amser yn flaenoriaeth iddynt a bu’n rhaid i ni aros yn hirach na’r disgwyl am ateb gan rai, hyd yn oed os mai ‘na’ oedd yr ateb hwnnw.   Yn ein hachos ni, gwnaethom fynd i’r mannau mwyaf heriol a chwilio am y bobl fwyaf ynysig, o fewn sefydliadau.   Roedd yn rhaid iddynt hefyd ddarbwyllo eu teuluoedd i gymryd rhan, a gan ein bod yn gweithio gyda sawl ffurf ar gelfyddyd, gallai’r prosiect ymddangos yn gymhleth ac roedd angen ei egluro’n ofalus i ddarpar gyfranogwyr. Gwnaethom gysylltu â sefydliadau fesul un, gan mai dim ond lle i dri theulu oedd gennym, ond gwnaeth hyn arafu’r broses a phe byddem yn gwneud hyn eto, mae’n bosibl y byddai’n fuddiol cysylltu â mwy nag un sefydliad ar yr un pryd.

Fodd bynnag, yn y pen draw, daethom o hyd i gydgysylltydd gweithgareddau brwdfrydig yng Nghwrt Newton (cartref gofal yn Abertawe) a staff cyfeillgar ar ward Ymddiriedolaeth Canser y Glasoed yng Nghaerdydd, a gwnaeth hynny wahaniaeth enfawr nid yn unig o ran cael gafael ar gyfranogwyr i ddechrau, ond hefyd drwy gydol y broses o gyflwyno’r prosiect; bu cyfraniad y bobl hynny at y prosiect yn enfawr.   Yn y cartref gofal yn benodol, chwaraeodd y cydgysylltydd gweithgareddau rôl hollbwysig drwy ailadrodd cyfarwyddiadau, rheoli’r dechnoleg ac annog y preswylydd/preswylwyr i gymryd rhan.   Yn wir, gwnaeth y cydgysylltydd gweithgareddau hefyd wahodd preswylwyr eraill i’r sesiwn ddawns, felly roedd ymdeimlad o ymgysylltu ehangach, er mai’r teulu oedd y prif ffocws.

Mae diogelu yn hollbwysig ac mae hyn yn rhywbeth a effeithiodd ar gynnydd ein prosiect.  Er mwyn glynu wrth y rheoliadau diogelu, gwnaethom benderfynu gynnal ein prosiect o fewn unedau teuluol, ond roedd hynny hefyd yn cyfyngu ein cynulleidfa darged.

Gweithio o bell drwy Zoom

Gweithiodd yr amgylchedd ar-lein yn dda, ac yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, bu’n ffordd dda o gyrraedd y nodau roeddem wedi eu pennu i ni ein hunain o ran cefnogi cysylltiadau teuluol a helpu pobl hŷn i deimlo’n fwy cyfforddus wrth ddefnyddio technoleg.  I rai aelodau o’r teulu, dyma oedd eu hunig gyswllt â’u mam-gu mewn gofod rhithwir – eu hunig gyswllt fel arall oedd drwy fab y preswylydd a dros y ffôn yn bennaf.

O ran y ferch ifanc yn ei harddegau y gwnaethom weithio gyda hi, gwnaeth hyn ei galluogi i weithio gyda’i chwaer dros Zoom (nad oedd yr un ohonynt yn gyfarwydd iawn ag ef cyn hynny). 

Roedd y cymysgedd o ymgysylltu ar-lein ac all-lein yn bwysig hefyd.  Er y gallai’r artist-hwylusydd gymryd rhan o bell, ym mhob un o’r tair sesiwn (cerddoriaeth, celf a dawns) gyda’r preswylydd cartref gofal, roedd angen i rywun fod yn yr ystafell yn gorfforol i’w gefnogi a’i oruchwylio.  Bu hyn yn ffordd effeithiol o weithio gyda phreswylwyr cartrefi gofal.  

Roeddem yn arbennig o falch ein bod wedi gallu cefnogi’r cyfranogwr yn ei harddegau, gan na allai fanteisio ar holl ymyriadau Ymddiriedolaeth Canser y Glasoed oherwydd natur ei salwch.  Fodd bynnag, bu angen i ni weithio gyda hi mewn ffordd ychydig yn wahanol; gallai ddefnyddio’r dechnoleg heb unrhyw drafferth ac felly nid oedd angen goruchwyliaeth arni, ond bu angen i ni deilwra rhannau penodol o’n hymyrraeth; er enghraifft, yn lle gweithgaredd canu grŵp, roedd yn well ganddi gael gwers canu unigol.  Roedd cael yr adnoddau a’r hyblygrwydd i wneud hyn yn hollbwysig.

 

Gweithio mewn unedau teuluol bach a oedd yn pontio’r cenedlaethau

At ei gilydd, roedd y sesiynau yn hyblyg ac yn llawn hwyl, ac roeddent yn dilyn dymuniadau a diddordebau cynhenid y bobl dan sylw. Anaml y byddwn yn cael cyfle i weithio mewn ffordd mor bwrpasol, na chydag un teulu ar y tro; nid yw cyfansoddiad ‘un i lawer’ y rhan fwyaf o’r gweithgareddau celfyddydol ac iechyd rydym yn eu cynnal yn ein galluogi i wneud hyn.  

Roedd yn werth chweil iawn gallu ymdrin â’r gweithgareddau creadigol mewn ffordd mor bwrpasol ac wedi’i chyd-gynhyrchu; gwnaeth y ddau deulu lywio’r gweithgareddau llawer mwy nag a fyddai’n bosibl fel arfer mewn amgylchedd grŵp – er enghraifft, gallent ddewis caneuon penodol i ni eu trefnu, eu canu a dawnsio iddynt, lliwiau penodol ar gyfer ategolion dawnsio, pynciau ar gyfer y darnau celf, ac ati.   Rhoddodd hyn lawer o berchenogaeth i’r cyfranogwyr a’u teuluoedd dros y prosiect, ac oherwydd y niferoedd bach, gallem fod yn fwy hyblyg

Ar gyfer y preswylydd cartref gofal y gwnaethom weithio gyda hi, rhoddodd y prosiect weithgaredd grŵp iddi hi a’i theulu a oedd yn eu galluogi i gael profiad ar y cyd, ffocws a rhywbeth i sgwrsio amdano.   Yn wir, gwelsom fod y caneuon a’r celf weledol yn ysbrydoli sgyrsiau a chwerthin am atgofion teuluol a diddordebau, a oedd yn fwy ystyrlon iddynt na dim ond siarad am bynciau o ddydd i ddydd. 

 

Defnyddio ffurfiau gwahanol ar gelfyddyd

Gwnaethom sylwi bod y gweithdai celf weledol yn arbennig o effeithiol o ran ysbrydoli sgyrsiau dyfnach am ddiddordebau a phrofiadau. Roedd y gweithdai canu a dawns yn fwy egnïol gyda mwy o chwerthin, gan ysbrydoli’r cyfranogwyr i siarad am atgofion ar yr un pryd. 

O safbwynt y gweithdai dawns, roeddem wedi cynllunio strwythur a oedd yn caniatáu’r amser a’r lle i gael sgwrs.   Fodd bynnag, roedd ffocws pawb yn ystod y gweithgareddau yn wych, felly roedd y teulu’n cael sgwrs dda ar ddiwedd y sesiwn yn lle hynny.  Drwy gael dau ymarferydd yn arwain y sesiwn ddawns, gallem sicrhau bod rhywun bob amser ar gael i arddangos fersiwn o’r gweithgaredd y gallai’r cyfranogwyr ei gwneud ‘ar eu heistedd’, a gallent ddewis drostynt eu hunain pa fersiwn i’w gwneud.

Roedd cynnal gweithgaredd corawl yn gofyn am fwy o waith paratoi cyn y sesiynau nag y byddai sesiwn gorawl draddodiadol o bosibl.  Fel arfer, gall rhywun drefnu darn o gerddoriaeth a’i addysgu’n bersonol, ond er mwyn gwneud hyn yn effeithiol ar-lein, rhaid recordio’r gân (mewn sawl rhan) yn ogystal â chreu taflenni geiriau/sgôr ymhell o flaen llaw er mwyn rhoi digon o amser i’r cyfranogwyr eu lawrlwytho a’u hargraffu.   Yn ystod y sesiwn, rhaid i’r unigolyn sy’n rheoli Zoom allu defnyddio’r botwm i fudo pawb yn eithaf aml er mwyn lleihau’r oedi, yr adlif a’r lleisiau croes – mae’r rhain yn elfennau cymharol sefydlog o gôr rhithwir.  Fodd bynnag, yn ogystal â’r elfennau hyn, wrth weithio yn y cartref gofal gwelwyd bod angen diffodd pob fideo heblaw am un neu ddau hefyd, er mwyn helpu i gynnal ffocws y cyfranogwyr yn ystod y sesiwn a lleihau’r pethau a allai dynnu eu sylw. Unwaith eto, mae hyblygrwydd yn bwysig iawn oherwydd yn aml byddai’r sgwrs yn gwyro oddi wrth y testun (a oedd yn hyfryd) a byddai dod o hyd i ffyrdd o adfer ffocws y sesiwn weithiau’n heriol. 

Roedd cynnal cyfarfod canfod a chyflwyno cychwynnol â’r ddau deulu yn hollbwysig i lwyddiant y prosiect.  Er enghraifft, o ran y cyfranogwr yn ei harddegau, gwelsom fod dawnsio yn ffefryn clir, felly daeth hynny’n rhan annatod o’n hymyrraeth.  Ond o ran y teulu arall yn y cartref gofal, y gân oedd y ffocws cychwynnol, a daeth yn gatalydd ar gyfer y gweithgareddau eraill.  Unwaith eto, y peth pwysig oedd bod yn hyblyg, fel y gallem addasu’n briodol, a daeth newid yr hyn a gynlluniwyd i ddechrau yn hollbwysig i lwyddiant yr ymyrraeth gyffredinol – mae’n bwysig nodi mai’r hyblygrwydd hwn oedd hanfod y cyfan, a’r rheswm pam yr oeddem am weithio gyda grwpiau bach penodol o’r fath.  Deallwn y byddai’n anodd ehangu hyn.

 

Beth nesaf i’r tîm?

Megan: Hoffwn barhau i gydweithio â gweithwyr proffesiynol o ddisgyblaethau eraill. Byddaf yn datblygu mwy o brosiectau celfyddydol o bell nawr rwy'n gwybod bod hynny’n bosibl. 

Iori: Rwyf wedi cael fy ysbrydoli'n fawr gan agwedd greadigol, ddeallus a blaengar pawb yn ystod y broses hon. Rwy’n teimlo bod gennyf fwy o gysylltiad â’r rhai sy’n gweithio ym myd y celfyddydau a’r sector iechyd yng Nghymru, ac rwy’n hyderus bod hyn wedi cryfhau cysylltiadau rhwng nifer o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio i gyrraedd nodau tebyg.  Rwy’n gobeithio cael y cyfle i ychwanegu gwerth at brosiectau fy nghydweithwyr yn y dyfodol, ac rwy’n gobeithio bod ein gwaith wedi helpu i ddatblygu agenda’r Celfyddydau mewn Iechyd yng Nghymru.

Amanda: Rwyf wedi cynnwys yr hyn a ddysgwyd drwy her Sbrint a’r Gylchfa Gelfyddydau Deuluol yn y broses o gynllunio ar gyfer prosiect dawns digidol i bobl â dementia, a ddechreuodd y mis hwn.   Rwyf hefyd wedi mwynhau cydweithio â gweithwyr proffesiynol o feysydd celfyddydol eraill yn fawr – hoffwn i weld mwy o hyn os gwelwch chi’n dda!

 

Manylion ariannol

Cyfanswm cost uniongyrchol y Gylchfa Gelfyddydau Deuluol oedd tua £2,000, gan gynnwys costau artist-hwylusydd a phecynnau celf i’r cyfranogwyr.

Cafodd Iori, Megan ac Impelo grant o £1,000 yr un gan Y Lab i gymryd rhan yn her Sbrint HARP.

Cyhoeddwyd hwn yn wreiddiol ar wefan Y Lab yn y fformat hwn.