Emma Kwaya-James, Arweinydd Cynhwysiant yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac Eric Ngalle Charles, artist llawrydd, sy’n trafod darganfod storïau gweithwyr gofal iechyd Du yn y GIG yn ystod pandemig Covid-19…
 

Dangosodd digwyddiadau 2020-21 – gan gynnwys COVID-19, lladd George Floyd a’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys – bod anghydraddoldebau sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yn bodoli o hyd i lawer o bobl, ym mhob cwr o’r byd, ac ar garreg ein drws yng Nghymru. Mae anghydraddoldebau o’r fath yn parhau yn ein cymdeithas a’n cymdogaethau, ac yn effeithio’n fawr iawn ar ein cymunedau Du.  

Roedd yr anghydraddoldebau hyn, sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn, yn amlwg iawn yng ngweithlu’r GIG, sydd mor agos at ein calonnau, wrth i ni glywed y storïau yn y newyddion bod pobl Ddu sy’n gweithio yn y GIG yn wynebu mwy o risg o farwolaeth o COVID-19 na phobl wyn. 

Fe wnaeth yr empathi roeddem yn ei deimlo tuag at ein cydweithwyr Du ein hysgogi ni, ac roeddem yn teimlo y gallai adrodd storïau fod yn gatalydd ar gyfer newid.

Drwy weithio gydag artistiaid o Gymru sydd â threftadaeth Affricanaidd neu Garibïaidd, fe wnaethom ni geisio edrych y tu ôl i’r ystadegau er mwyn darganfod storïau am bandemig Covid-19 o bersbectif gweithwyr gofal iechyd, a myfyrwyr a hyfforddeion gofal iechyd Du y GIG yng Nghymru.
 

 

Y dull ‘ffeithiol creadigol’

Defnyddiodd Eric ddull ‘ffeithiol creadigol’ i gasglu, cydosod ac ailysgrifennu 10 stori. Roedd hyn yn golygu cyflwyno ffeithiau yn y storïau, ond newid enwau a lleoedd, a chymysgu profiadau ar draws gwahanol storïau fel nad oedd modd adnabod unrhyw unigolion yn y gwaith creadigol terfynol.  

Fe wnaeth hyn ein galluogi i ddarparu gofod creadigol diogel o safbwynt seicolegol a chyfrinachol. Cyflwynir y deg stori mewn llyfr llafar, ac fe wnaethom ni hefyd greu fideo animeiddiedig i gyflwyno’r gwaith.

Roedd arnom eisiau darparu gofod unigryw a diogel i weithwyr gofal iechyd Du rannu eu profiadau o’r pandemig. Drwy wneud hyn, roeddem yn gobeithio y byddai’r cyfranogwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac y byddent yn gweld y GIG fel lle croesawus i weithio.

Ein gobaith ehangach oedd y byddai rhoi llwyfan i bobl rannu eu profiadau’n ddienw yn helpu AaGIC i gael gwell dealltwriaeth o bersbectifau ei weithlu amrywiol yn ystod y pandemig. Gallai hyn helpu i ddarparu gwybodaeth am ei waith ymgysylltu â staff. Mae rhannu’n ehangach â’r cyhoedd yn helpu ein cymdeithas i ddysgu oddi wrth leisiau sy’n bodoli ar yr ymylon.

Roedd defnyddio dull ffeithiol creadigol yn darparu gofod creadigol diogel o safbwynt seicolegol a chyfrinachol

Gwersi a ddysgwyd

Mae’r pandemig wedi cael effaith fawr iawn ar iechyd a lles gweithwyr gofal iechyd Du, ac mae canolfannau creadigol i gefnogi lles yn bwysig.  Drwy’r prosiect hwn, gwelsom rym ymgysylltu’n effeithiol â phobl sydd â phrofiad bywyd.

Fe wnaethon ni hefyd ddysgu bod yn rhaid i’r rhai hynny sy’n rhannu profiadau personol a allai fod yn brofiadau trawmatig deimlo’n ddigon hyderus a chyfforddus i gamu ymlaen a rhannu pryderon. 

Roedd y dull ffeithiol creadigol yn ffordd unigryw ac effeithiol o feithrin yr hyder hwnnw tra’n bod yn driw i’r profiadau a’r ffeithiau a rannwyd gan y cyfranogwyr. Gallai’r cyfranogwyr deimlo’n ddiogel wrth rannu eu profiadau heb deimlo y byddai rhywun yn ceisio dial arnynt. 

Drwy’r profiadau amrywiol a rannwyd gan y cyfranogwyr, gwelsom y gall amlygu a dathlu hunaniaeth unigolion helpu i weithio yn erbyn grwpio pobl o leiafrifoedd a chymunedau ethnig gyda’i gilydd dan dermau ymbarél fel ‘BAME’.

Mae cyd-gynhyrchu a grymuso pobl i adrodd eu storïau eu hunain yn bwerus ac yn bwysig.

 

Y dyfodol

Casglwyd y storïau hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a hefyd er mwyn ysgogi newid.

 

Credwn fod gan y storïau hyn y grym i newid y naratifau a’r canfyddiadau presennol am brofiadau pobl Ddu

ac y gall yr hyn rydym wedi ei ddysgu fod yn sail i gamau gweithredu deallus a helpu i sicrhau cynlluniau cynhwysiant a datblygu gweithlu strategol, gan gynnwys sut y mae AaGIC yn ymgysylltu â Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru.

Rhannwyd y cynnyrch creadigol â thîm arweinyddiaeth weithredol AaGIC, sydd yn awr yn ystyried sut y gellir rhannu’r llyfr llafar a’r storïau yn ehangach, gan gynnwys eu hymgorffori mewn cynlluniau hyfforddi a datblygu gwahanol er mwyn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o anghydraddoldebau yn y gweithlu.  

Mae’r tîm yn ystyried sut y gall rannu’r storïau’n ehangach.

Roedd ‘Doing the write thing’ yn bartneriaeth ‘Egin’ HARP rhwng Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Dee Udeze ac Emma Kwaya-James) a’r artistiaid llawrydd, Ali Goolyad ac Eric Ngalle Charles.