Sarah Teagle o Gôr Pellennig yn trafod Digital Threads, prosiect HARP a ddaeth â cherddoriaeth a darganfod i gleifion â dementia mewn ysbyty yng Nghaerdydd
Mae cerddoriaeth yn nodwedd gynyddol allweddol o ofal dementia.
Yng ngwanwyn 2021, wrth i ymchwil ddangos fod y pandemig yn effeithio'n anghymesur ar bobl â dementia, gwnaethom lansio Digital Threads - rhaglen gerddoriaeth a barddoniaeth ar-lein gyda'r nod o gadw cleifion mewnol â dementia yn actif yn wybyddol ac yn gymdeithasol gysylltiedig.
Ar draws Cymru, nid oedd teuluoedd a chyfeillion yn cael ymweld â chelifion mewnol gyda dementia, ac roedd staff gofal iechyd wedi'u gorlethu.
Gwelodd nifer o bobl â'r cyflwr bod eu symptomau'n gwaethygu'n gyflymach a chysylltiadau ag anwyliaid yn cael eu colli.
Gyda hynny mewn golwg, aethom ati i brofi ymagwedd newydd at weithio yn Ysbyty Dewi Sant Caerdydd.
Defnyddiom sesiynau canu a symud rhyngweithiol i helpu cleifion mewnol â dementia i adrodd eu straeon personol mewn modd artistig, gan eu cadw'n actif yn wybyddol ac yn gorfforol.
Gwneud cysylltiadau
Cynhaliom ein bloc 10 wythnos cyntaf o sesiynau ar Zoom ar gyfer 18 o gleifion. Byddent yn eistedd ar y ward gydag aelod o staff Materion Iechyd Meddwl o flaen sgrîn, ac, o'n cartrefi, byddem yn cynnal sesiwn gynhesu gyda grwpiau bach cyn eu hannog i siarad am eu hunain. Byddai hyn yn arwain at ganu cân.
Byddai ein cerddorion a'r cantorion yn arwain y sesiwn o bell, gan ymgorffori symudiadau corfforol syml i gadw cleifion yn actif o fewn eu cyfyngiadau.
Bu'r artistiaid a'r beirdd Louise Osborn ac Emma Jenkins yn arsylwi'n dawel oddi ar y camera er mwyn creu barddoniaeth wedi'i ysbrydoli gan y straeon a ranwyd.
Gwersi cynnar
Er bod y Côr Pellennig wedi trefnu sesiynau canu wythnosol ar gyfer pobl â dementia ers 2011, roedd trefnu sesiynau o bell mewn ysbyty yn ystod pandemig yn heriol a dysgom lawer.
O safbwynt ymarferol, mae'r GIG yn beiriant anferth felly roedd nodi prif lunwyr penderfyniadau ar y cychwyn a chadarnhau eu hymroddiad yn hanfodol. Roedd 'arweinydd gofal integredig' yn yr ysbyty a oedd yn gyfrifol am lunio'r holl benderfyniadau ynghylch pwy oedd yn cael mynd i mewn i'r ward, pwy gâi gymryd rhan yn y gweithgaredd, a phennu a oedd yn ddiogel. Roedd sicrhau ei bod yn deall ac yn cefnogi ein nod, a sut roeddem am ei gyflawni, yn hanfodol.
Roedd hi hefyd yn hanfodol cael rhywun o Faterion Iechyd Meddwl yn bresennol gyda chleifion. O safbwynt ymarferol, gwnaethant helpu gyda'r dechnoleg a chyfathrebu gyda chleifion. Yn bwysicaf oll, roeddent yno os oedd claf yn teimlo'n emosiynol neu angen cysur.
Fel arfer, byddem yn defnyddio'r hyn mae person yn ei rannu am ei f/bywyd i lunio'r caneuon yn y sesiwn nesaf. Ond yn aml roedd pobl wedi gadael cyn y sesiwn nesaf.
Roeddent hefyd yn colli diddordeb wrth i eraill yn y grŵp siarad ac roedd hi'n anodd cynnwys ymarferwyr meddygol yn y sesiynau am eu bod yn rhy brysur.
Gwnaeth aelodau o'r teulu ymuno, ond canfu rhai y dechnoleg yn heriol ac achosodd eu presenoldeb i gleifion ymateb yn emosiynol iawn am nad oeddent wedi'u gweld ers sawl mis.
Oherwydd effaith ynysu'r pandemig weithiau byddai cwestiynau am fywydau'r cleifion yn achosi tristwch wrth iddynt siarad am anwyliaid na fedrent fod gyda hwy.
Addasu ein hymagwedd
Gwnaethom newid ychydig ar ein hymagwedd cyn ein hail floc o sesiynau, gan gadw'r gwersi cynnar mewn cof.
Er nad yn anghyffredin i rannu straeon bywyd ysgogi emosiwn, roedd cynnal y sesiynau o bell yn galw am ystyriaeth bellach - gan gynnwys sut i synhwyro newidiadau mewn tymer a sut orau i ddelio â hwy.
Gwnaethom y sesiynau'n fyrrach ac yn fwy ar gyfer yr unigolyn, gyda grwpiau llawer llai a sesiynau 1:1 byrrach. Yn awyddus i sicrhau nad oeddem yn achosi niwed, gwnaethom ddefnyddio cariad ein cleifion at gerddoriaeth fel offeryn ymgysylltu yn hytrach nag archwilio eu hanes personol, gan ddewis caneuon syml er mwyn dysgu gyda'n gilydd. A gwnaethom leihau cyfranogiad eu teuluoedd fel bod y cleifion yn gallu cysylltu'n fwy uniongyrchol gyda'r gerddoriaeth a'r hwylusydd.
At ei gilydd, gwnaethom weithio gydag oddeutu 70 o gleifion, gan ffafrio ansawdd y profiad dros nifer, ac rydym wedi gweld effaith gadarnhaol ar bobl.
Ar y cychwyn roedd un claf, a arferai ganu mewn band gwerin, yn amheus ac gyndyn i ymwneud â'r prosiect. Fodd bynnag, dechreuodd agor i fyny wedi i ni chwarae cân o'r enw 'An elephant never forgets'.
Buom hefyd yn gweithio gyda dyn nad oedd yn siarad llawer o Saesneg pan gyfarfûm. Nid ymatebodd i'n sesiynau hyd nes i ni ganu cân werin draddodiadol o'i wlad. Canodd y tro cyntaf yn ei famiaith, a oedd yn foment ymgysylltu rymus.
Mae'r farddoniaeth a gynhyrchwyd gan y prosiect wedi ysbrydoli gwaith celf gan yr artist Cymreig enwog, Nathan Wyburn. Gellir eu canfod ynghyd â ddarlleniad sain o'r cerddi gan actor 'It's a Sin', Callum Scott Howells, ar ein gwefan ymgollol.
Bydd staff ac ymwelwyr yn gallu gweld y gwaith celf hefyd yn yr ysbyty.
Edrych i'r dyfodol
Er gwaethaf rhai heriau, gwnaeth y prosiect atgyfnerthu pa mor hanfodol yw ein gwaith i bobl â dementia mewn ysbytai. Mae wedi effeithio arnynt yn gorfforol ac yn emosiynol a'u hailgysylltu'n gymdeithasol yn ystod cyfnod gofidus.
Hoffem weld y rhaglen yn cael ei chynnwys mewn pecyn gofal ar gyfer cleifion sy'n paratoi i adael yr ysbyty.
Byddwn yn gweithio gyda therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion i integreiddio mwy o symud corfforol i mewn i'n sesiynau er mwyn cefnogi gallu pobl â dementia i yfed a bwyta. Rydym wedi ymgeisio am gyllid arloesedd i gefnogi hyn.
Mae canfod y cyllid cynaliadwy yn parhau'n her. Ceir rhai cyllidwyr arbennig - mae Elusen GIG Caerdydd a'r Fro wedi bod yn wych. Rydym hefyd yn gobeithio gweithio gyda sefydliadau fel Comisiwn Bevan a byrddau iechyd eraill, i sicrhau arian ar gyfer prosiectau.
Rydym wedi dysgu bod cael ystod o ffynonellau incwm yn helpu gyda chynaliadwyedd a 'graddiadwyedd' ein prosiect. Yn ystod y pandemig cafwyd gostyngiad mewn ffrydiau incwm i ddigwyddiadau elusennau a gwelwyd hefyd roddion corfforaethol yn crebachu. Rydym wedi manteisio ar y gronfa ffyrlo a potiau adfer Covid-19, ond ni fyddant yn para am byth.
Mae angen cyllidwyr arnom i gefnogi gwaith cyfredol profedig, ynghyd â syniadau newydd, a bod yn agored i ffafrio ansawdd dros nifer fel mae'r rhaglen HARP wedi'i wneud.
Er na allwn newid profiad pawb, rydym wedi gweld gwerth mewn newid bywyd rhai.
Cyd-ddyluniwyd Digital Threads gan Gôr Pellennig, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, yr artistiaid a'r beirdd Louise Osborn ac Emma Jenkins, a Materion Iechyd Meddwl, elusen genedlaethol yn cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan ymgollol y 'Côr Pellennig’.