Melanie Wotton, Rheolwr Prosiect y Celfyddydau mewn Iechyd, Tîm y Celfyddydau mewn Iechyd a Lles, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (CVUHB), a Paul Whittaker a Tamsin Griffiths o Four in Four, yn trafod dysgu o'r prosiect Lleisiau Ffibrosis Systig

Mae maes ffibrosis systig yng Nghymru wedi newid dros y blynyddoedd diweddar.

Oherwydd pandemig Covid-19 a chyflwyno therapi newydd hynod o effeithiol, ar gyfer y cyflwr, cafwyd cyfle i ailddiffinio gwasanaethau ar gyfer pobl sy'n byw gyda ffibrosis systig. 

Roedd Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro am archwilio sut gellid ymgorffori celfyddydau creadigol yn y gwasanaethau hynny er lles pobl sy'n byw gyda'r cyflwr a'u tîm gofal iechyd amlddisgyblaethol. 

Wedi partneru gyda'r sefydliad celfyddydol Four in Four i gyflwyno sesiynau celfyddydau gweledol yn llwyddiannus i bobl â ffibrosis systig yn 2020, aeth tîm y Celfyddydau mewn Iechyd a Lles y bwrdd iechyd ati i bartneru gyda Four in Four eto, ynghyd â staff y Ganolfan Ffibrosis Systig Oedolion Cymru Gyfan i ddatblygu ein prosiect 'Lleisiau Ffibrosis Systig' gyda chymorth HARP.  

 

Roedd sawl ysgogiad ar gyfer y cam hwn o'r gwaith. 

Roeddem am ganfod sut gallai'r celfyddydau creadigol ailfframio gwasanaethau Ffibrosis Systig y dyfodol, gan gynorthwyo pobl sy'n byw gyda'r cyflwr a staff sy'n ymateb i ddynameg gofal newidiol. 

Yn 2021 cwblhawyd y cyfleusterau newydd yng Nghanolfan Ffibrosis Systig Oedolion Cymru Gyfan, Ysbyty Prifysgol Llandochau, sy'n darparu gofal arbenigol i fwy na 300 o oedolion ledled Cymru. Roedd y staff nyrsio yn awyddus i ddefnyddio'r celfyddydau i greu amgylchedd croesawgar i ddarparu ffocws i arosiadau cleifion mewnol, ynghyd â meithrin cysylltiadau rhwng pobl sy'n byw gyda'r cyflwr sy'n gallu cyfarfod wyneb yn wyneb oherwydd peryglon croes-heintio. 

Roeddem hefyd am symud i wasanaeth llunio penderfyniadau a rennir.

Cyfleoedd ar gyfer cydweithio

Mae ymagwedd heb bresgripsiwn aml-gyfryngol Four in Four at y celfyddydau yn annog 'sgyrsiau creadigol' a hunanfynegiant.

Roeddem yn rhan o'r prosiect yn...helpu i bontio'r bwlch rhwng y cleifion a'r staff drwy newid y sgwrs. Yn hytrach na holi 'Beth mae Ffibrosis Systig yn ei olygu i chi?. aethom ati i holi'r staff a'r cleifion, 'Pwy ydych chi?

Paul Whittaker a Tamsin Griffiths, Four in Four

Gallai cyfranogwyr ddefnyddio'u lleisiau creadigol trwy wahanol gyfryngau, gan gynnwys ffilm, ffotograffiaeth, adrodd straeon, argraffu, cerflunio a dawns. 

Roedd hefyd yn meithrin cydweithio, gan gynnwys o fewn y bwrdd iechyd. 

Dechreuodd Four in Four gyda sesiynau sgwrsio creadigol ar gyfer aelodau staff, gan adeiladu perthnasoedd newydd a sail gadarn ar gyfer y prosiect. 

 

Gan fod cleifion a staff newydd wedi adrodd eu bod yn ystyried bod gwasanaeth aml-ddisgyblaethol ffibrosis systig Cymru gyfan yn llethol, aeth Paul a Tamsin ati i'w fapio'n greadigol. 

Mae'r map a luniwyd, yn seiliedig ar fap y 'London Underground', yn rhoi gwybodaeth am wasanaethau i bobl sy'n byw gyda ffibrosis systig, gan rymuso ac hysbysu eu penderfyniadau. Bydd hefyd yn cynorthwyo staff meddygol newydd ac rydym yn gobeithio llunio fersiwn ddigidol. 

 

Llunio cysylltiadau mewnol

Galluogodd y broses greadigol i'n tîm celfyddydau lunio cysylltiadau newydd o fewn y bwrdd iechyd. 

Trwy'r broses fapio, gwnaethom gysylltu gyda ffisiotherapyddion, dietegwyr, cenhadon ieuenctid a'r tîm gofal iechyd ehangach. 

Gwnaethom gysylltu gyda thîm gwella a rhoi ar waith y bwrdd iechyd ynghylch gwerthuso ac rydym yn awyddus i barhau i adeiladu'r berthynas hon. Gwnaethom hefyd gydweithio gyda'n gweithiwr ieuenctid ffibrosis systig.

Gwnaeth Rheolwyr Nyrsio ar y ward helpu i gyflwyno prosiect ffotograffiaeth 'Fy Nghymru', gyda'r delweddau a gynhyrchwyd yn cael eu harddangos yn ystafelloedd y cleifion. 

Yn yr ystafelloedd hynny, bydd hefyd becynnau celfyddyd yn cynnwys prosiectau paentio a brodio, a ddyluniwyd ac a grëwyd ar y cyd gydag artist sy'n defnyddio'r gwasanaeth ffibrosis systig.

Darparodd ein tîm profiadau'r cleifion hyfforddiant cyflwyno ar gyfer Four in Four, a fu'n gweithio'n agos gydag aelodau staff a chyfranogwyr. Gwnaethom gydweithio gydag arfarnwr annibynnol allanol, Susanne Burns, a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i ddeall effaith y prosiect hwn ar staff a'r rhai sy'n defnyddio'n gwasanaethau ffibrosis systig. 

Roeddem hefyd yn gweithio'n agos gyda chenhadon cleifion a staff allweddol eraill drwy ein gweithgor prosiect. 

Y tu hwnt i'r bwrdd iechyd, bu aelod tîm y celfyddydau yn gweithio ochr yn ochr ag artist dylunio gêmau i greu gêmau tecstio rhyngweithiol ar gyfer cleifion mewnol ar y ward ffibrosis systig, a gwnaethom helpu i gomisiynu artist murluniau ar gyfer y ganolfan.

Gobeithiwn y bydd y gwaith celf ar y cyd hwn...yn ddechrau i'r ffordd newydd hon o ddylunio a datblygu gwasanaethau

Meddyg Ymgynghorol Ffibrosis Systig

Mater o amser 

Mae rhai o'n gwersi mwyaf yn ymwneud ag amser. 

Cafodd Lleisiau Ffibrosis Systig ei greu gyda gweledigaeth hir-dymor mewn golwg, felly roedd adeiladu seiliau'n allweddol i lwyddiant y prosiect hwn. 

Mae llunio a datblygu perthnasoedd mewn gwasanaeth iechyd mawr yn cymryd amser ac mae'r pandemig a phwysau diddiwedd y gaeaf wedi gwneud cyflwyno sesiynau celfyddydol i aelodau staff sy'n brin eu hamser yn heriol. 

Fodd bynnag, clywom eu lleisiau ac am eu syniadau creadigol eithriadol a byddant yn cael eu cyflawni yn y misoedd i ddod. 

Gwnaeth HARP hefyd ganiatáu i ni ddefnyddio gofod ar gyfer darganfod, a olygai bod ein prosiect yn esblygu wrth i ni ddatblygu a darganfod cyfleoedd newydd. 

Galluogodd sesiynau celfyddydol rhithiol a gyflwynwyd gan Paul a Tamsin ar gyfer pobl sy'n byw gyda ffibrosis systig, i ni gynnal sgyrsiau creadigol ac agored a ddarparai wersi. 

Dywedodd rhai cyfranogwyr fod y sesiynau creadigol wedi helpu i newid y modd mae'n nhw'n meddwl am eu profiadau gyda ffibrosis systig. 

Dywedodd un arall bod y sesiynau wythnosol, wedi blwyddyn galed, wedi helpu i ailgynnau ei gariad at greu celf a gwthio ei ffiniau creadigol.  

Gwnaeth eraill fwynhau'r cyfle i gwrdd â phobl eraill o oedrannau a difrifoldeb eu cyflwr gwahanol sy'n byw gyda ffibrosis systig.

 

Mae'n rhoi undod i ni sydd wedi bod yn fawr ei golled ac sy'n fawr ei angen.

Kim, sy'n byw gyda ffibrosis systig

Bellach rydym yn edrych ymlaen at ddysgu o sesiynau creadigol sy'n cynnwys staff a chleifion.

Ond megis dechrau 

Fel un o'n prosiectau graddfa fawr cyntaf, caniataodd i ni archwilio sut gellir ymgorffori'r celfyddydau yn y gwasanaeth iechyd a helpu i'w ailddiffinio. 

Trwy gyfuno celfyddydau cyfranogol a gwella'r amgylchedd a chyfranogiad, rydym yn agosach i'n gôl o ddatblygu gwasanaeth ffibrosis systig lle rhennir llunio penderfyniadau. 

Megis dechrau yw'r ymagwedd ar y cyd hon at ddylunio a datblygu gwasanaethau. 

Rydym yn chwilio am gyfleoedd cyllido eraill i barhau â'r prosiect ac rydym yn hyderus y bydd ein hymagwedd o fudd i wasanaethau eraill o fewn ein bwrdd iechyd a'r tu hwnt. 
 

Mae Lleisiau Ffibrosis Systig (Cystic Fibrosis Voices) yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a’r sefydliad celf, Four in Four.