Chris Ryan, cyfarwyddwr Arts Care Gofal Celf, a Rachel Murphy, cydlynydd prosiect y sefydliad, yn rhannu eu profiadau o gynnal prosiect HARP 'Opsiynau Creadigol'
Achosodd pandemig Covid-19 niwed cyflym a dinistriol i iechyd meddwl pobl Cymru.
Gwnaeth nifer y bobl yng Nghymru a oedd yn profi problemau iechyd meddwl difrifol agos at dreblu yn ystod y cyfnod clo cyntaf, gan roi pwysau a galw sylweddol ar wasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru.
Er cafwyd newid o ofal sefydliadol i ofal cymunedol ar gyfer pobl sy'n profi heriau iechyd meddwl, mae nifer o bobl yn parhau i adfer mewn ysbytai wedi salwch iechyd meddwl acíwt.
Mae gwaith Arts Care Gofal Celf gyda Chyngor Sir Gâr a Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP)Hywel Dda wedi canolbwyntio'n bennaf ar y gymuned ers sawl blwyddyn, ond yn ystod y pandemig gwelwyd angen penodol am fannau creadigol mewn ysbytai seiciatrig a gosodiadau preswyl.
Felly, gyda chefnogaeth HARP, rydym wedi lansio Opsiynau Creadigol, prosiect a ddyluniwyd i gyflwyno ystod o weithgareddau creadigol i oedolion gyda heriau iechyd meddwl sydd mewn ysbyty neu sy'n aros mewn tai â chymorth neu osodiadau gofal preswyl.
Gwnaeth cymorth hyblyg HARP ein galluogi i gynnal y prosiect mewn modd gwahanol a rhoi cynnig ar bethau newydd.
Cynhaliom fwy na 80 o sesiynau creadigol mewn chwe mis ar draws pedwar ward iechyd meddwl yng Nghaerfyrddin a Llanelli. Amrywiai'r gweithgareddau o wneud printiadau a phaentio cerrig i ffeltio a gwaith tecstilau, gwaith saer, cerameg a chelf graffiti.
Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys pobl mewn unedau gofal seiciatrig dwys ac ar wardiau rhannol ddiogel, ynghyd â chleifion diogeledd isel a oedd yn paratoi i ddychwelyd i'r gymuned. Roeddent yn gweithio ar ddarnau ar y cyd ac yn unigol.
Defnyddiwyd y celf graffiti i sirioli waliau'r ysbyty ar gyfer y staff a'r cleifion, ac mae rhai o'r darnau ysgrifennu creadigol wedi bod mor rymus fel ein bod yn gobeithio trefnu noson i'w cyflwyno.
Gwnaethom hefyd gynnal dau brosiect iechyd meddwl cymunedol yn Llanelli a phrosiect ysgrifennu creadigol ar-lein.
Roedd y cleifion yn edrych ymlaen at y sesiynau. Rhoddodd ddiben, ac i rai, gyfle i dynnu eu sylw oddi ar bethau eraill
Ffyrdd newydd o weithio
Mae Arts Care Gofal Celf wedi bod yn gweithredu am fwy na thri degawd, ond wrth drefnu sesiynau mewn ysbyty ac ar-lein yn ystod pandemig dysgom wersi newydd.
Roedd staff yr ysbyty yn awyddus i'r sesiynau fod wyneb yn wyneb, am resymau cymdeithasol ac ymarferol, ond oherwydd cyfyngiadau Covid-19 bu rhaid gohirio cychwyn y prosiect.
Wrth i allu'r staff ddod dan bwysau, gwnaeth eu hymgysylltiad â'r sesiynau hefyd amrywio. Roedd y rhai a allai ymgysylltu'n llawn yn bositif iawn am yr effaith ar eu lles ynghyd ag ar y cleifion'.
Mae'r artistiaid yn dod ag egni newydd. Wedi bod dan glo cyhyd, roedd y sesiynau hyn yn chwa o awyr iach ac yn ymdeimlad o obaith i gleifion a staff fod pethau'n gwella
Roeddem yn ffodus i gael cefnogaeth ac arweiniad uwch-therapydd galwedigaethol trwy gydol y rhaglen. Roedd hi'n werthfawr wrth yrru'r prosiect yn ei flaen ac yn amlygu pwysigrwydd canfod eiriolwr a prif lunwyr penderfyniadau o fewn y strwythur iechyd i helpu i lywio prosiectau o'r fath.
Mae'r un peth yn gymwys wrth weithio gyda sefydliadau mwy eraill.
Gohiriwyd y cynlluniau i bartneru gyda Chyngor Sir Gâr a'r awdurdod tai oherwydd newidiadau mewnol o fewn yr adran.
Ond rydym wedi elwa o dderbyn arweiniad a chefnogaeth gan grŵp llywio a sefydlwyd yn benodol ar gyfer y prosiect hwn. Roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o bartneriaeth y prosiect ac yn cynnig arbenigedd o bob sector.
Roedd cynllunio ar gyfer y sesiynau creadigol hefyd yn galw am ymagwedd newydd.
Fel arfer, byddai'r artistiaid yn cynllunio bloc o sesiynau ar gyfer hyd at 15 o unigolion. Ond mewn ysbytai caiff cleifion eu cymryd i mewn a'u rhyddhau'n rheolaidd, gan olygu niferoedd a chyfranogwyr amrywiol dros oes y prosiect.
Gan fod ymchwil yn dangos bod trefn arferol yn chwarae rhan bwysig mewn iechyd meddwl, gwnaethom ddewis yr un diwrnod bob wythnos i ymweld â'r wardiau, felly os byddai cleifion yn symud rhwng wardiau neu'n gadael yr ysbyty ac yn dychwelyd byddent yn gwybod taw dydd Mawrth yw diwrnod y celfyddydau yn Llanelli neu Gaerfyrddin.
Gwnaeth cymorth hyblyg HARP ein galluogi i gynnal y prosiect mewn modd gwahanol a rhoi cynnig ar bethau newydd
Cyn ein prosiect HARP roeddem yn ystyried sesiynau ar-lein yn opsiwn 'ail orau' yn lle cwrdd am weithdai wyneb yn wyneb, ond mae ein sesiynau ysgrifennu creadigol wedi newid hynny.
Roedd y grŵp ysgrifennu creadigol yn gwerthfawrogi cael cymryd rhan heb deithio, yn enwedig os oeddent yn cael diwrnod anodd, a gwnaeth sawl un nodi eu bod yn teimlo'n fwy diogel yn eu cartrefi, sy'n bwysig i bobl sydd wedi profi trawma.
Byddwn yn parhau gydag ymagwedd gyfun i'n rhaglenni, o weithio ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Mae Zoom wedi bod yn ddull gwych o gymdeithasu drwy'r pandemig ac hefyd pan nad oedd gen i gludiant
Rhoesom gynnig ar ddulliau newydd o weithio hefyd. Fel arfer byddem yn hurio artistiaid unigol i gyflwyno sesiynau wedi'u gosod ond galluogodd arian HARP i ni ddwyn tîm craidd o artistiaid ynghyd o wahanol ddisgyblaethau a allai weithio'n fwy ar y cyd, gan rannu syniadau creadigol a chydweithio.
Gwnaethant rannu'r gwersi a'r datrysiadau a ddysgwyd a chynnig cefnogaeth cymheiriaid pan fyddai popeth yn ormod. Nawr maent yn llunio gwaith celf yn seiliedig ar eu hymgysylltiad, sy'n brofiad newydd i ni.
Rhaid mynd ati i feddwl o'r newydd wrth fesur effaith Opsiynau Creadigol.
Roedd rhai aelodau o staff yn ofni y byddem yn defnyddio clorian les i siarad â chleifion gyda salwch iechyd meddwl difrifol ynghylch pam eu bod yn teimlo'n sâl, nid oedd ffilmio straeon unigol yn bosib am resymau cyfrinachedd, ac roedd y cleifion yn rhy sâl i gwblhau holiaduron, felly gwnaethom ddibynnu'n helaeth ar adborth gan staff, artistiaid a sylwadau cyfranogwyr.
Dyfodol Opsiynau Creadigol
Ein nod yw canfod cyllid i gynnal o leiaf cyfran o'r gwaith hwn.
Ceir cynlluniau i gyflwyno'r rhaglen yn Sir Benfro ac yng Ngheredigion. Rydym am ddatblygu partneriaethau i'n galluogi i fabwysiadu ymagwedd fwy cydlynol at y gwaith ar draws y bwrdd iechyd a gydag awdurdodau lleol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chydlynwyr celfyddyd ac iechyd o BIP Hywel Dda.
Er gwaethaf rhai heriau, mae Opsiynau Creadigol wedi bod yn llwyddiant aruthrol ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu effaith hirdymor y prosiect.
Mae Opsiynau Creadigol yn bartneriaeth rhwng Arts Care Gofal Celf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Gâr, a Gweithredu Gorllewin Cymru Dros Iechyd Meddwl.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag info@acgc.co.uk, ewch i www.acgc.co.uk neu ffoniwch 01267 243815