Kevin Jarvis, o Gyngor Sir Ddinbych, Sian Fitzgerald o Hamdden Sir Ddinbych, a’r artistiaid Mari Gwent a Steffan Donnelly, sy’n edrych ar gefnogi staff gofal rheng flaen yn Sir Ddinbych er mwyn rheoli straen pandemig Covid-19

Wynebodd staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn Sir Ddinbych heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen o ganlyniad i bandemig COVID-19.

Arweiniodd achosion o’r feirws mewn cartrefi gofal, a lleoliadau gofal cymdeithasol eraill, at farwolaethau ar raddfa na ellid ei dychmygu, gan roi pwysau seicolegol enfawr ar staff.  Yn ychwanegol at hyn, gwelodd llawer o staff iechyd a gofal cymdeithasol eu hunain yn ceisio llenwi’r bwlch cymdeithasol ac emosiynol a adawyd pan gafodd ymweliadau teuluoedd â chartrefi gofal ac ysbytai eu hatal. 

Cafodd capasiti staff iechyd a gofal cymdeithasol hefyd ei ymestyn wrth i lawer gael eu taro’n wael neu orfod ynysu oherwydd Covid-19.

Aethom ati i geisio cyd-gynhyrchu adnodd celfyddydol cynaliadwy ac arloesol ar gyfer staff gofal rheng flaen a oedd yn dod â chreadigrwydd ac agwedd gadarnhaol i’w bywydau o ddydd i ddydd.

Gan gydnabod bod hunan ofal yn dod yn ail wrth ymateb i anghenion brys, roeddem yn gobeithio cyd-greu adnodd a fyddai’n apelio at staff rheng flaen, a fyddai’n rhoi hwb mawr ei angen i’w lles, ac yn eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Roeddem yn gobeithio dysgu gwersi buddiol y byddem yn gallu eu defnyddio wedyn er mwyn datblygu adnodd lles ar gyfer staff gofal a chefnogi rheng flaen mewnol ac allanol, yn Sir Ddinbych a thu hwnt.

 

[Fel staff gofal], rydyn ni’n cael ein dysgu i ofalu, bod yn gymdeithasol ac yn dosturiol. [Nawr yn ystod Covid] mae disgwyl i ni gau’r drws ar bobl sy’n dibynnu arnon ni, gan wybod na fyddan nhw’n gweld neb arall. Maen nhw’n poeni ac mae ganddyn nhw ofn, ac allwn ni ddim hyd yn oed gafael yn eu llaw i gynnig cysur. Mae baich y cyfrifoldeb i ddiogelu bywyd yn ein llethu ni.

Gweithiwr gofal, Sir Ddinbych

Deall y lleoliadau gofal

Ymwelodd yr artistiaid, Steffan a Mari, â chartrefi gofal yn Sir Ddinbych. Buont yn sgwrsio â staff yno, yn ogystal â rheolwyr cartrefi gofal a staff gwasanaethau cefnogi cymunedol.

Yn ystod y sgyrsiau byr hynny cawsant gipolwg ar realiti gweithio mewn cartrefi preswyl yn ystod y pandemig.  

Roedd hi’n fraint cael ymweld â’r cartrefi a dysgu gan y gweithwyr gofal am eu profiadau emosiynol. Dysgais ffyrdd newydd o gydweithio a datblygu syniadau creadigol drwy gyfarfodydd platfformau digidol.

Steffan Donnelly, artist

Fe wnaeth hyn ein hysbrydoli i ddatblygu pecyn ‘cymorth cyntaf’ iechyd a lles creadigol i staff. Anfonwyd pecynnau at 10 gwirfoddolwr. Roedd y pecynnau’n cynnwys "llyfr consertina dau ddrws" wedi’i wneud â llaw, y gallent ei ddefnyddio fel llyfr nodiadau neu lyfr braslunio; peth i ddal pensiliau; pensiliau lliwio; ac eitemau defnyddiol eraill. Ddwywaith yr wythnos, roedd Mari yn ebostio tasg greadigol at y staff a oedd yn cymryd rhan, er enghraifft defnyddio camera neu ffôn i dynnu llun o rywbeth yn eu gardd neu dynnu llun o’r cysgodion y mae gwrthrych arbennig yn eu gwneud. Y nod oedd creu adegau o ymwybyddiaeth ofalgar a rhoi rhywbeth i’r rhai a oedd yn cymryd rhan ganolbwyntio arno yn eu hamgylchedd bob dydd.

Fe wnaethom ni ddewis y gweithgareddau hyn yn benodol er mwyn annog staff gofal i ddefnyddio creadigrwydd i ailgysylltu â nhw eu hunain a phobl eraill, er mwyn gwneud synnwyr o’r amgylchedd gofal, a’u helpu i ymdrin â theimladau sy’n gysylltiedig â straen neu rwystredigaeth.

 

Beth wnaethon ni ei ddysgu

Fe wnaethon ni ddysgu llawer iawn drwy’r broses.

Roedd hi’n fraint cael ymweld â’r cartref a dysgu gan y gweithwyr gofal am eu profiadau emosiynol. Fel artistiaid, fe wnaethon ni ddysgu ffyrdd newydd o gydweithio a datblygu syniadau creadigol drwy gyfarfodydd platfformau digidol.

Dywedodd y staff gofal a fu’n cymryd rhan yn yr ymarferion pecyn cymorth cyntaf creadigol cyntaf bod y pecyn wedi gwneud iddynt deimlo’n fwy cadarnhaol. Roedd yn drueni bod natur rithwir y prosiect, oherwydd cyfyngiadau COVID-19 ar y pryd, yn rhwystro’r cyfranogwyr rhag ymgysylltu’n uniongyrchol â’r artist a oedd yn gosod y tasgau, gan eu bod wedi dweud y byddent wedi hoffi cael elfen gymdeithasol i’r prosiect â chyswllt mwy uniongyrchol â’r artistiaid. Mae hyn yn awgrymu bod cefnogaeth cymheiriaid yn ystod gweithgaredd creadigol yr un mor bwysig pan fo rhywun dan bwysau neu’n wynebu her â’r gweithgaredd creadigol ei hun. 

Yn gyffredinol, roedd hi’n anodd iawn cael adborth hefyd, oherwydd yn aml iawn nid oedd arolygon gwerthuso yn cael eu dychwelyd, ac roedd y data sylfaenol yn gymysg.  Mae’n bosibl bod hyn oherwydd bod llawer o staff gofal ddim yn defnyddio ebost neu alwadau fideo yn eu gwaith o ddydd i ddydd, felly roedd hi’n anodd cysylltu â nhw, yn enwedig yn ystod cyfyngiadau COVID-19.  Roedd yn amlwg i ni bod angen proses gasglu data greadigol, sy’n ennyn diddordeb, er mwyn mesur effaith prosiect lles, a bod angen i’r broses bara drwy gydol oes y prosiect.

 

Gofalu am staff yn y dyfodol


Er hyn, roedd agenda les a chreadigrwydd y prosiect hwn yn taro tant â staff sy’n gweithio mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth, a ddywedodd y byddai ganddynt ddiddordeb mewn cymryd rhan. Rydym yn gobeithio, oherwydd yr addewid cynnar a’r adborth cadarnhaol, y gwnaiff y Cyngor ystyried datblygu tasgau’r artist i greu adnodd mwy parhaol ar gyfer lles staff.

Gan adeiladu ar adborth gan y cyfranogwyr, fe wnaethom hefyd gynnal ‘diwrnod lles’ ar gyfer staff gofal cymdeithasol yng Nghanolfan Grefftau Rhuthun yn ddiweddar. Roedd yn gyfle i ni edrych ar y posibilrwydd o gynnwys staff gofal mewn ymarferion lles wyneb yn wyneb. 

Roedd yn ddiwrnod da, a chawsom ein hysbrydoli i barhau i chwilio am ffyrdd newydd o gefnogi lles gweithlu gofal cymdeithasol ein Cyngor.

Roedd y ‘Pecyn cymorth cyntaf creadigol’ yn bartneriaeth egin yn cael ei chefnogi gan HARP rhwng Hamdden Sir Ddinbych, Cyngor Sir Ddinbych, a’r artistiaid llawrydd, Steffan Donnelly a Mari Gwent.