Jonny Cotsen, artist perfformio llawrydd ac ymgynghorydd mynediad; Sarah Goodey, rheolwr datblygu’r celfyddydau, Celfyddydau mewn Iechyd Gwent a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; and Louise Hobson, cynhyrchydd a churadur annibynnol.
Y nod:Rhoi llwyfan i leisiau pobl F/fyddar, anabl a niwroamrywiol yn ystod y pandemig – cyfnod sydd wedi creu mwy o anghydraddoldebau i bobl anabl – a thrwy rannu eu gweithiau â sefydliadau celfyddydol ac iechyd, ysgogi newid cadarnhaol yn ystod y cyfnod hwn o ailddychmygu, ailagor ac ailadeiladu.
Y gweithgarwch: Comisiynu chwe artist B/byddar, anabl a niwroamrywiol i greu gweithiau, gan fyfyrio ar eu profiadau o’r pandemig a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.
Pa anghenion roeddech yn eu gweld yn y byd a wnaeth eich ysgogi i ymgymryd â her Sbrint HARP?
Sarah: O safbwynt personol o ran y celfyddydau ac iechyd yn y GIG, roeddwn yn falch o weld pa mor ystwyth y gallai ein gweithlu – ym maes iechyd a’r celfyddydau – fod yn wyneb anawsterau, ac roeddwn am weld sut y gallem gydnabod, nodi a chynnal arferion newydd.
Jonny: Pan glywson ni y byddai’r theatrau’n cau, fy ymateb cyntaf fel artist anabl oedd “sut alla i ddelio â hyn?”. Yn bersonol, roedd yn digwydd yn rhy gyflym a doedd dim amser i feddwl, anadlu na deall mewn gwirionedd sut allwn i ddatblygu fel artist. Roeddwn i wedi drysu’n lân. Meddyliais lawer am y rhwystrau y byddwn i’n eu hwynebu – mwy o rwystrau! Roeddwn i’n teimlo bod angen i mi feddwl am fy llesiant a’m harfer gelfyddydol fy hun.
Louise: Mae fy mhrofiadau yn bennaf ym maes y celfyddydau gweledol, a phan gafodd cymaint a oedd wedi bod yn ddigyfnewid cyn hynny ei gau, ei ganslo neu ei oedi, a’i newid yn sydyn i raglenni ar-lein/o bell; daeth yr hyn a oedd wedi cael ei ystyried yn amhosibl ei wneud neu ei ailgyfeirio, yn realiti dros nos. Yn What protective measures can you think of so we don’t go back to the pre-crisis production model? gan Bruno Latour, cawn ein gwahodd i ystyried gyda’n gilydd ‘beth sy’n bwysig i ni; beth rydym yn barod i roi’r gorau iddo; y cadwyni rydym yn barod i’w hail-greu, a’r rhai rydym wedi penderfynu, drwy ein hymddygiad, darfu arnynt?’
Beth roeddech am ei gyfrannu? Beth oedd eich nodau, eich gobeithion a’ch breuddwydion ar gyfer eich cyfranogwyr?
Fel tîm. Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar bobl F/fyddar, anabl a niwroamrywiol ac anabl. Gyda’n gilydd, roedd gennym brofiad o weithgareddau sy’n seilIedig ar ddigwyddiadau, perfformio a churadu, a gwnaethom gydnabod mai drwy fanteisio ar ein cryfderau y byddem yn cynnig yr ymateb gorau.
Roeddem am fyfyrio ar y cwestiwn: Pam roedden ni’n rhuthro’n ôl i fywyd ‘normal’ pan nad yw hynny’n gweithio i gymaint o bobl?, a chomisiynu artistiaid i greu gweithiau newydd sy’n cynnig pwyntiau myfyrio i sefydliadau celfyddydol ac iechyd ddysgu ohonynt. Yn Normate Template: Knowing-Making the Architectural Inhabitant, mae Aimi Hamraie yn ysgrifennu: “Examine any doorway, window, toilet, chair or desk…and you will find the outline of the body meant to use it”. Gwnaethom ddechrau meddwl am yr amlinelliad hwnnw o 'dempled normadol' a sut mae’r foment benodol hon yn cynnig cyfle i ailddychmygu a chefnogi'r alwad y dylai pobl F/fyddar, niwroamrywiol ac anabl fod wrth wraidd y gwaith o ailadeiladu ein byd ar ôl y pandemig.
Felly, ein nodau oedd:
- Defnyddio creadigrwydd a chelf i roi llais i grwpiau wedi’u hymyleiddio fel y gallant/gallwn wneud cyfraniad cadarnhaol at newid cymdeithasol parhaus i bobl F/fyddar a/neu anabl a phobl niwroamrywiol yng nghyd-destun y celfyddydau ac iechyd drwy gomisiynu artistiaid.
- Adrodd stori i annog dealltwriaeth – creu lle i artistiaid greu gweithiau sy’n ymateb i’w myfyrdodau personol ar yr union adeg hon a’u gobeithion (a’u hofnau) ar gyfer y dyfodol.
- Myfyrio’n greadigol ar adnoddau, systemau (yr hyn sy’n gweithio ac nad yw’n gweithio) a meithrin gallu – annog gweithwyr proffesiynol/cyrff/sefydliadau ym maes iechyd a’r celfyddydau i ymgorffori arferion gorau ar gyfer y dyfodol er budd artistiaid a chynulleidfaoedd B/byddar, anabl a niwroamrywiol.
“Cyn COVID, prif ffocws fy ngwaith oedd cynnal sgyrsiau, a daeth hynny’n amhosibl yn sgll y rhwystrau i gyfathrebu. Llwyddais i adfer y ffocws hwnnw i raddau drwy gynnal y sgyrsiau hynny (â Louise a Sarah) gan fod ymdeimlad o ymddiriedaeth a bod yn agored. Roeddem am fyfyrio ar yr hyn roeddem wedi ei ddysgu gyda’n hartistiaid. Cawsom rai sgyrsiau hyfryd ac o safbwynt personol, roedd ei angen arna i, neu roedd ei angen arnon ni i gyd” - Jonny Cotsen
Beth wnaethoch chi, a pham?
Gwnaethom ddilyn proses galwad agored a phenodi chwe artist, y gwnaethom greu gwefan ar eu cyfer i arddangos eu gwaith – gan eu trin fel arddangosfa grŵp. Gwnaethom gyfarfod â phob un o’r artistiaid o bell a, lle y bo’n bosibl, eu cyflwyno i’w gilydd fel y gallem drafod y broses o wneud y gwaith a dysgu oddi wrth ein gilydd. Gwnaethom drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain, trawsgrifiadau a disgrifiadau sain lle y bo’n bosibl; rhoesom lawer o ystyriaeth i iaith a hygyrchedd y gweithiau, er mwyn estyn allan i gynulleidfa ehangach.
Rydym newydd lansio’r wefan (www.conversationsfutureselves.co.uk). Rydym yn gobeithio y bydd y wefan hon yn dod yn adnodd creadigol i’r rhai sy’n gweithio ym myd y celfyddydau a/neu’r sector iechyd yng Nghymru – gan annog gweithwyr proffesiynol i dreulio amser yn ystyried y gweithiau celf a myfyrio ar yr hyn sy’n cael ei rannu a’u safbwyntiau posibl am y rôl y maent yn ei chwarae o ran cynnal arferion gwaith sydd o fudd i rai dros eraill.
Cafwyd ymateb gwych i’r alwad agored. Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau o ran amser a chyllideb, ni fu modd i ni wneud popeth yn hygyrch. Fodd bynnag, cafodd Jonny sgyrsiau â’r artistiaid am fynediad a’r hyn a oedd yn teimlo’n iawn iddyn nhw a’u gwaith, a gwnaethom ddarparu ar gyfer hynny.
Beth y gwnaethoch ei ddysgu am y ffurf/ffurfiau ar gelfyddyd y gwnaethoch ei dewis/eu dewis a beth oedd ymateb y bobl i hynny?
Ni wnaethom bennu ffurf benodol ar gelfyddyd, ond dim ond llwyfan digidol y gellid ei ddarparu – mae hyn wedi golygu llawer iawn o waith i greu gwefan ac arddangos y cynnwys yn briodol. Drwy gomisiynu artistiaid, rydym wedi gweithio ar draws nifer o ffurfiau ar gelfyddyd, gan gefnogi artistiaid i greu gwaith ar ffurf dawns, cerddoriaeth, gair llafar, paentiad a fideo. Rydym wedi gweithio gyda chwe artist, ac ers 10 Medi, rydym wedi denu 653 o ymwelwyr unigryw i’n gwefan, ac mae’r nifer hwnnw’n dal i gynyddu. Ymwelodd 176 o’r rheini ar 31 Gorffennaf, pan lansiwyd y wefan.
Roedd yn hollbwysig ein bod yn gallu cynnal sgyrsiau â’r artistiaid am y gwaith roeddent yn bwriadu ei greu a’n bod yn neilltuo amser iddynt siarad â’i gilydd hefyd.
Yng nghyd-destun ein prosiect, rydym wedi bod yn ystyried llesiant hirdymor ac yn ystyried y foment benodol hon yn gatalydd ar gyfer newid. Wrth greu lle i artistiaid gael eu clywed a’u cefnogi i greu gwaith newydd, sy'n myfyrio ar y cyfnod hwn a’u gobeithion a'u hofnau ar gyfer y dyfodol, rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn galluogi pobl eraill i deimlo eu bod yn cael eu gweld a'u clywed.
Sut mae’r cyfranogwyr wedi elwa ar y gweithgarwch hwn?
Drwy sgwrsio ag artistiaid, gwelsom fod creu’r gweithiau hyn yn aml wedi atgyfnerthu neu newid eu harferion. Mae rhai wedi dweud ei fod wedi rhoi cyfle iddynt fynd i gyfeiriad gwahanol y maent bellach am ei archwilio ymhellach ar ôl i’r prosiect ddod i ben, neu weithio gyda chyfrwng newydd ar gyfer y darn olaf – e.e. fideo. Mae'r lleoliad domestig hefyd wedi taflu goleuni ar anabledd yn y cartref, nad yw o reidrwydd yn weladwy bob amser, fel ffynhonnell o ysbrydoliaeth ac ymarfer creadigol i'r artistiaid.
Mae’r prosiect hwn yn cynnwys:
- yr artistiaid rydym wedi eu comisiynu; a
- y rhai sy’n ymweld â gwefan Conversations / Future Selves, yn enwedig y rhai sy’n gweithio ym myd y celfyddydau neu faes iechyd yng Nghymru.
I fyfyrio ar yr hyn y mae’r cyfranogwyr wedi elwa arno drwy’r gweithgarwch hwn, dyma ddarn byr o fonolog yr artist Sophia McLean, sy’n tynnu sylw at y ffordd y gall y manylyn lleiaf – fel mân oleddf yn y palmant – greu rhwystr dyddiol i’w oresgyn. Mae cymaint o rwystrau’n bodoli, ac rydym yn gobeithio y bydd y rhai hynny sy’n ymweld â gwefan Conversations / Future Selves ac yn profi’r gweithiau celf hyn yn ystyried y rhwystrau y mae ganddynt y pŵer i’w chwalu neu eu goresgyn, yn enwedig i bobl F/fyddar, niwroamrywiol ac anabl. Dyma ddarn o fonolog Sophia:
“Pan fydda i’n deffro yn y bore, wn i ddim a fydd gen i barlys o’r canol i lawr, na’r egni i wthio cadair olwyn i lawr y stryd. Mae’n beth bach iawn, ond os edrychwch chi’n agos, mae’r palmentydd i gyd yn goleddu ychydig er mwyn i’r dŵr glaw ddraenio. Ond mae ceisio llywio cadair olwyn fel mynd ar slalom gydag un sgi wedi’i ddipio mewn triog, ac os byddwch chi’n colli’ch gafael, byddwch chi’n plymio i mewn i’r traffig.
Dydy’r ffyrdd hynny ddim wedi’u hadeiladu i bobl fel ni. Ac os bydda i am fynd allan i wagio silffoedd Tesco o bapur toiled, mae’n rhaid i mi feddwl ddwywaith a oes gen i’r egni i gyrraedd yno.
Ac mae hynny’n wir am gymdeithas hefyd. Mae llawer o bethau nad ydyn nhw wedi’u hadeiladu i bobl fel ni.
Mae’r pandemig wedi chwalu’r camargraff cyffredinol o normal yn llwyr ac wedi tynnu sylw at yr anghysondebau, y gwahaniaethau, a’r anghydraddoldebau yn ein cymdeithas ac wedi dangos maint ei diffygion. Nawr, yn fwy nag erioed, yw’r amser i osod wyneb newydd, ail-lefelu a newid.”
Sophia McLean, artist
Beth nesaf i’r tîm?
Bydd yn parhau i rannu’r wefan â rhwydweithiau iechyd a chasglu adborth. O ran sut y bydd yn adeiladu ar y profiad hwn, mae’r tîm wedi dweud:
Sarah: Rwyf wedi dysgu tri pheth: Yn gyntaf, bod gweithio mewn tîm o bell yn bosibl, ac y gall fod yn greadigol ac yn gynhyrchiol. Yn ail, bod gennyf bellach lawer mwy o ymwybyddiaeth o brofiadau ac anghenion pobl F/fyddar, anabl a niwroamrywiol. Yn drydydd, fy mod yn bwriadu cynnwys cydweithwyr yn y bwrdd iechyd a staff trydydd sector mewn trafodaethau am ffyrdd gwell o ddiwallu’r anghenion a fynegwyd gan yr artistiaid y gwnaethom weithio gyda nhw.
Jonny: Byddaf yn addysgu eraill ac yn herio fy hun ac eraill mewn sefyllfaoedd newydd (ar-lein a chorfforol). Mwynheais y broses gomisiynu yn arbennig, gan fod cefnogi artistiaid eraill i wneud gwaith a oedd yn adrodd eu straeon eu hunain yn brofiad gwerth chweil iawn.
Louise: Wrth ddychmygu gwaith ymchwil a phrosiectau yn y dyfodol, rwyf bellach yn ystyried sut i newid fy safbwynt o annibynnol i ryngddibynnol. Gweithio ‘o fewn’ ac ‘ar’ sefydliadau, er mwyn sicrhau bod amser i wrando a chefnogi gofod diogel i eraill.
Manylion ariannol
Cyfanswm cost uniongyrchol prosiect Conversations / Future Selves oedd tua £2,000, gan gynnwys y chwe artist a gomisiynwyd, y wefan a darparu cymorth mynediad i’r artistiaid.
Cafodd Louise, Jonny a Celfyddydau mewn Iechyd Gwent grant o £1,000 yr un gan Y Lab i gymryd rhan yn her Sbrint HARP.
Cyhoeddwyd hwn yn wreiddiol ar wefan Y Lab yn y fformat hwn.