Sarah Goodey, Rheolwr Datblygu’r Celfyddydau, ac Eleanor Davis, Swyddog Prosiectau’r Celfyddydau ac Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy’n ymuno â Kate Strudwick, Cyfarwyddwr Creadigol Head4Arts, i rannu eu taith HARP…
Mae’r pandemig wedi rhoi sefydliadau iechyd dan bwysau mawr.
Aeth staff allan o’u ffordd i amddiffyn pobl rhag y feirws, gan gefnogi cleifion â chyflyrau iechyd eraill a cheisio rheoli eu hamgylchiadau eu hunain.
Mae iechyd meddwl pawb wedi bod dan bwysau – staff a chleifion.
Er mwyn tynnu sylw at yr arferion gorau yn y celfyddydau ac iechyd, sefydlodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan bartneriaeth â Gwent Arts in Health a sefydliad celfyddydau cymunedol Head4Arts er mwyn cyflwyno gweithgareddau amrywiol i wahanol grwpiau o bobl, gan ganolbwyntio ar iechyd meddwl a phrofedigaeth.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, â chefnogaeth HARP, rydym wedi defnyddio’r gweithgareddau hyn i edrych ar ffyrdd o sefydlu’r celfyddydau yn y Bwrdd Iechyd drwy gasglu gwersi a ddysgwyd a thystiolaeth o’r arferion gorau a chefnogi dulliau newydd ar draws arbenigeddau.
Cefnogi pobl sy’n galaru a phobl ifanc
Amharwyd ar wasanaethau cefnogi i bobl mewn profedigaeth yn ystod y cyfnod clo ac ychwanegodd y cyfyngiadau at yr unigrwydd y mae llawer o bobl yn ei deimlo wrth alaru.
Er mwyn canfod sut y gallai creadigrwydd helpu, cyflwynasom weithgaredd plygu papur glöyn byw i wirfoddolwyr â gwasanaeth diwedd oes yr ysbyty, fel gweithred gofio y gellid ei gwneud wrth ochr gwely cleifion. Roedd y pecyn yn cynnwys y deunyddiau angenrheidiol a gwybodaeth am wasanaethau galar a phrofedigaeth.
Mae pobl yn aml yn poeni y byddant yn anghofio pethau am y person sydd wedi marw, felly cafodd dyddlyfr creadigol yn ymwneud â phrofedigaeth ei dreialu gan 18 o wirfoddolwyr. Mae’n cynnig syniadau ar gyfer myfyrdodau ysgrifenedig, mae’n offeryn cwnsela defnyddiol, ac mae’n anrheg hardd y gall staff gwasanaeth iechyd ei roi i berthnasau ar adeg pan maent yn aml yn teimlo eu bod yn methu â gwneud dim byd i helpu.
Defnyddiodd staff ac artistiaid hefyd hyfforddiant gan elusen Cruse ar effaith profedigaeth.
Drwy weithio â MyST (My Support Team), partneriaeth amlasiantaeth sy’n gweithio er mwyn helpu plant sy’n derbyn gofal i aros yn eu cymunedau lleol, Rhaglen Trawsnewid Seicoleg Plant BIPAB, Teuluoedd yn Gyntaf Blaenau Gwent a Seicoleg Plant, Teuluoedd a Chymunedau Gwent, cawsom hefyd gyfle i edrych sut y gall gwaith creadigol gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles meddyliol plant a phobl ifanc.
Mae plant sy’n byw mewn amgylchiadau anodd yn fwy tebygol o brofi heriau â’u hiechyd a’u lles meddyliol, ac mae Covid wedi gwneud pethau’n waeth.
Ar y cyd â Teuluoedd yn Gyntaf, buom yn cynnal gweithdai barddoniaeth ym Mlaenau Gwent gyda mamau y mae eu teuluoedd wedi’u nodi fel rhai sydd angen cefnogaeth ychwanegol. Hwyluswyd y sesiynau gan fardd lleol, Clare Potter, a bu gweithwyr cefnogi’r teuluoedd yn cymryd rhan, gan helpu i ddatblygu ymddiriedaeth. Teimlai’r cyfranogwyr fod y prosiect yn eu helpu i fynegi sut roeddent yn teimlo a pham, a dywedasant ei fod wedi eu harwain i wneud penderfyniadau gwahanol yn eu bywydau.
Drwy weithio gyda MyST rydym wedi helpu pobl ifanc i edrych ar eu hymdeimlad o berthyn, a meddwl sut y gall y celfyddydau gweledol gael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl. Mynychwyd y sesiynau, dan arweiniad yr artistiaid Ben Connors ac Amelia Thomas, gan bobl ifanc a’u gweithwyr cefnogi. Buont yn creu gwaith celf a graffiti sydd bellach yn rhan o adeiladwaith eu canolfannau. Mae hyn yn creu cyfle pwysig i bobl ifanc fynegi eu hunain – pobl ifanc sy’n aml yn teimlo eu bod o’r golwg ac nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi.
Yn bwysig iawn, roedd y gweithgareddau hyn yn fainc arbrofi i hybu a thyfu ecoleg celfyddydau ac iechyd yn y bwrdd iechyd.
Roedd ein profiadau gyda nhw, a’r effaith a gawsant, yn bwydo i mewn i fforwm creadigol a sefydlwyd gennym er mwyn hwyluso sgyrsiau ynglŷn â beth sydd gan y celfyddydau ac iechyd i’w gynnig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Roedd y fforwm yn aml yn cynnwys artistiaid gwadd.
Fe wnaeth y sgyrsiau yn y fforwm a’r gweithgareddau helpu i adeiladu, profi a mireinio strategaeth gelfyddydau gyntaf y Bwrdd Iechyd sydd bellach yn ei chamau terfynol ac a fydd yn llywio’r gwaith hwn yn y dyfodol.
Roedd y gweithgareddau hyn yn fainc arbrofi i hybu a thyfu ecoleg celfyddydau ac iechyd yn y bwrdd iechyd.
Trawsnewid heriau yn gyfleoedd dysgu
Fel yr oeddem yn disgwyl, nid yw popeth wedi mynd yn unol â’r cynllun.
Fe wnaeth galwadau gwahanol ar gapasiti staff ddal cynlluniau ar gyfer prosiectau tecstilau a sain yn ôl, er ein bod yn parhau’n ymrwymedig iddynt, ac roedd yn anodd cynnal cyfarfodydd rheolaidd rhwng partneriaid.
Bu’n rhaid i ni hefyd geisio egluro bod gwaith y celfyddydau ac iechyd yn bwysig iawn yn ystod pandemig, pan oedd y GIG wedi’i ymestyn i’r eithaf a gwasanaethau naill ai’n dod i ben neu’n symud i fod ar-lein. Gwnaethom hyn drwy’r fforwm creadigol, y strategaeth ac eiriolaeth.
Roedd cyfnodau yn ystod y pandemig pan nad oedd gwasanaethau cyhoeddus yn weithredol, er bod mentrau masnachol yn gweithredu, ac roedd hynny’n gwneud anghydraddoldebau iechyd ac anghydraddoldebau cymdeithasol yn waeth.
O ran plant, pobl ifanc a theuluoedd agored i niwed, roedd cynnal mynediad personol i’w system gefnogaeth yn ystod Covid-19 yn hollbwysig ar gyfer eu lles. Llwyddasom i sicrhau bod gweithdai creadigol yn parhau wyneb yn wyneb iddynt hwy yn ystod yr ail gyfnod clo.
Dysgwyd gwersi hefyd.
Roedd sgyrsiau trawsffurfiol yn digwydd pan oedd hwyluswyr yn barod i rannu eu gwendidau ochr yn ochr â dysgwyr yn ystod gweithdai, yn enwedig y rhai a oedd yn gweithio gyda phobl ifanc.
Ac roedd cynnwys arbenigwyr iechyd y GIG a phartneriaid clinigol mewn sesiynau cymunedol yn helpu artistiaid i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn creu mannau diogel i’r cyfranogwyr. Roedd eu cynnwys hefyd yn golygu y gellid integreiddio’r gwaith creadigol a’r sgyrsiau a oedd yn deillio ohono yng nghynlluniau iechyd a gofal cymdeithasol unigolion. Roedd rhai o’r sesiynau ar gyfer pobl ifanc, er enghraifft, yn cael eu cefnogi gan y tîm seicoleg plant.
Mae ein gwaith hefyd wedi dangos sut y mae staff wedi cael eu heffeithio gan brofedigaeth. Rydym yn edrych yn awr sut y gall y dyddlyfrau profedigaeth eu cefnogi nhw yn ogystal â chleifion.
Mae gweithio o bell wedi dod â newid cadarnhaol. Daeth sesiynau ein fforwm creadigol â staff o wahanol lefelau rheoli ac arbenigeddau at ei gilydd yn gyfartal ar-lein. Mae pawb yr un faint mewn ffenestr Zoom neu Teams.
Cefnogi gwaddol HARP
Ar lefel gweithgaredd, cyfrannodd ein prosiect tuag at ddealltwriaeth gynyddol o allu creadigrwydd i wneud gwahaniaeth i iechyd a lles meddyliol pobl. Roedd y gweithgareddau’n caniatáu i gleifion weld eu hunain, i gael llais ac i weld bod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi ddigon i gael lle. Roeddent hefyd yn rhoi dewis i gleifion ynglŷn â sut a beth roeddent yn ei rannu.
Bydd pob un o’r edefynnau gweithgaredd rydym wedi’u creu drwy HARP yn cael effaith barhaol wrth i ni symud ymlaen, ynghyd â’r partneriaethau rydym wedi eu hadeiladu.
Yn dilyn diddordeb gan sefydliad ym Mlaenau Gwent, er enghraifft, rydym wedi sicrhau cyllid ar gyfer gweithdai creadigol i bobl ifanc ag anableddau a gofalwyr ifanc. Mae’r sefydliad hwnnw’n awyddus i gynnwys ymarfer celfyddydau fel rhan o’i waith.
Bydd y prosiect tecstilau a seiniau yn rhedeg gyda chleifion mewn lleoliadau acíwt, gan gynnig cysur a’u galluogi i brofi amgylchedd gwahanol.
Byddwn hefyd yn ystyried realiti estynedig a thechnoleg er mwyn cynnig seibiant i staff sy’n methu â gadael eu wardiau’n gorfforol.
Bydd ein gwaith creadigol mewn cysylltiad â phrofedigaeth yn parhau. Rydym yn datblygu gweithgareddau grŵp wyneb yn wyneb ac o bell, gan archwilio model cerdded i mewn â chefnogaeth a sut i ymgorffori gweithgareddau awyr agored.
Rydym yn falch o’r effaith y mae’r prosiect hwn wedi’i gael ar unigolion, teuluoedd, ein hartistiaid a’n staff iechyd.
Ar ddiwedd gweithdy barddoniaeth wyth wythnos, gwnaeth mam a fu’n cymryd rhan benderfyniad a fyddai’n newid ei bywyd - penderfyniad a oedd yn gwella diogelwch y teulu - ac roedd yn priodoli’r penderfyniad hwn yn uniongyrchol i’r gweithdy.
Yn olaf, mae’r ffaith fod y Bwrdd Iechyd wedi mabwysiadu ein strategaeth celfyddydau yn newid arwyddocaol i ymarfer yn y dyfodol.
Nawr, bydd y celfyddydau mewn iechyd yn cael eu hystyried fel ffordd o glywed lleisiau cleifion, cynyddu eu cyfranogiad, a gwella eu hamgylcheddau ffisegol. Mae’n golygu lle bo’n bosibl ac yn briodol y bydd hyn yn cael ei gynnwys yn y bwrdd iechyd.
Dywedodd y rhai a ymunodd â’n proses greadigol eu bod wedi darganfod cryfder a chefnogaeth wrth gynllunio’r strategaeth a threulio amser rheolaidd yn ystyried creadigrwydd â sbectrwm eang o gydweithwyr.
Rydym yn edrych ymlaen yn awr i roi’r strategaeth hon ar waith gyda nhw a dysgu o’r gweithgareddau creadigol hyn sy’n cael eu cefnogi gan HARP a ffrydiau gweithgaredd parhaus.
Roedd y Rhaglen Celfyddydau ac Iechyd yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Celfyddydau mewn Iechyd Gwent, Head4Arts ac ymarferwyr unigol.