Emrys Barnes, Cydlynydd Celfyddyd ac Iechyd ‘Celf Lles’, yn rhannu profiad ei dîm o gyflwyno tri phrosiect celfyddyd ac iechyd penodol yn cysylltu pobl mwyaf ynysig y gymuned yn ystod pandemig

I nifer o bobl ddiamddiffyn yn ardaloedd gwledig Sir Benfro, yn benodol pobl hŷn a'r rhai â chyflyrau iechyd meddwl, gwnaeth pandemig Covid-19 a chyfyngiadau'r clo mawr waethygu eu hynysigrwydd. 

I gysylltu cyfranogwyr i'r prosiect, aethom ati i weithio gyda Chysylltwyr Cymunedol Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), ynghyd â Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro a'r grŵp Cysylltiadau Digidol (Cymunedau Digidol Cymru, Age Cymru Dyfed a Llesiant Delta). Cawsant hefyd gefnogaeth werthuso gan Dîm Ymchwil, Arloesedd a Gwella Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Roeddem yn awyddus i ddarparu mannau lles creadigol i'r rhai yr oedd arnynt eu hangen fwyaf, gan archwilio sut gallem eu cyrraedd ac ymgysylltu â hwy ac effaith gwahanol weithgareddau ar les meddyliol a theimladau o fod yn ynysig. Roeddem hefyd yn chwilfrydig i ganfod sut roedd Covid-19 wedi effeithio ar eu perthynas â thechnoleg.

Pŵer perfformiad

Gyda thystiolaeth gynyddol yn cadarnhau effeithiau cadarnhaol canu ar les meddyliol a chorfforol, gwnaeth ein prosiect 'Côr Pellennig' ddarlledu hwylusydd canu i wahanol gartrefi gofal Cyngor Sir Penfro ar gyfer trigolion ag anableddau dysgu. 

Cymerodd mwy na 40 o bobl ran yn ein gweithdai canu a gynhaliwyd drwy alwad fideo, gan ganolbwyntio ar fwynhau canu yn hytrach na thechneg ffurfiol. 

Yn y cyfamser, gwahoddwyd pobl a warchodir neu â symudedd cyfyngedig i berfformio gyda Theatr Soffa, grŵp theatr cymunedol ar-lein arloesol a phoblogaidd a weithredir gan Span Arts.

Roedd y cyfranogwyr yn ymuno o'u cartrefi bob wythnos i ymarfer, gan gynnwys cyn-breswylydd o Sir Benfro a ymfudodd i Ganada, cyn cyflwyno perfformiad diwedd prosiect byw. Daeth nifer i glywed am y prosiect gan gysylltwyr cymunedol PAVS, sy'n cysylltu pobl ddiamddiffyn ac ynysig â gweithgareddau a grwpiau i gefnogi eu lles.

Cafodd perfformiadau'r grwpiau eu ffrydio ar-lein yn Gymraeg ac yn Saesneg, gyda 19 cyfranogwr a nifer o bobl yn gwylio'r ffrydio byw.

 

Meddai'r cyfranogwyr bod perfformio gydag eraill wedi rhoi ymdeimlad 'da', o fodlonrwydd neu foddhad iddynt, a'i fod wedi gweithio i 'godi [eu] hwyliau' neu 'godi [eu] calonnau

Yn olaf, buom hefyd yn gweithio gyda Kerry Steed, awdur a bardd lleol, a fu'n arwain cyfres o sesiynau am ysgrifennu ar gyfer lles - arfer ar-lein datblygol sy'n defnyddio ysgrifennu creadigol a myfyriol i archwilio iechyd meddwl a pherthynas cyfranogwyr â'r byd ehangach a'r bobl o'u hamgylch. 

Bu Kerry'n arwain ymarferion barddol bob wythnos, gan lunio man diogel a chroesawgar a roddodd yr hyder i 25 o gyfranogwyr geisio ysgrifennu eu hunain. Rhannwyd eu gwaith gyda chyfranogwyr eraill yn ystod y sesiwn, gan ysgogi sgwrs, myfyrio ac ymdeimlad grŵp. 

Ymunodd un dyn â Rhannu Bydoedd gyda'i wraig, i'w helpu hi i feddwl am farddoniaeth ac i ysgrifennu unwaith eto. Yn ystod y broses, fe'i gynorthwy-wyd ef i gysylltu â barddoniaeth, gan ddechrau barddoni. 

Goresgyn heriau newydd

Er gwaethaf ein blynyddoedd o brofiad yn cyflwyno prosiectau celfyddyd ac iechyd cymunedol, ceir heriau a gwersi newydd ar ein cyfer ni a'r artistiaid sy'n eu cyflwyno ar-lein yn ystod pandemig. 

Roedd cartrefi gofal o dan bwysau eithriadol yn ystod y pandemig ac nid oedd llawer wedi gweithio gydag elusennau celfyddydol o'r blaen, felly roedd ymgysylltu â hwy trwy ein gweithdai canu ar-lein yn anodd i gychwyn. 

Pan ddechreuodd technegau hyrwyddo arferol ffaelu, dechreuom ffonio cartrefi gofal ar draws Sir Benfro yn unigol gan esbonio beth oeddem yn ei wneud a'u hannog i gymryd rhan - ymagwedd hirfaith ond effeithiol.

Mae'r prosiect HARP wedi ein herio a newid sut rydym yn meddwl am sut i gasglu gwybodaeth gan gyfranogwyr hefyd.

Ar gyfer y gweithdai theatr a barddoniaeth gwnaethom annog ceisiadau gan bobl a oedd yn profi ynysigrwydd cymdeithasol neu heriau iechyd meddwl. 

Fe'u gwahoddwyd i adrodd am eu anghenion, gan gynnwys unrhyw anableddau, gyflyrau iechyd neu ofynion hygyrchedd, ar ffurflen gofrestru ar-lein.  Ond ni wnaeth llawer hynny - efallai am nad ydynt yn ystyried bod ganddynt gyflwr neu angen penodol, neu am eu bod yn ystyried ffurflenni ar-lein yn amhersonol. 

Roedd hyn yn cyflwyno heriau ymarferol i'r artistiaid a arweiniai ein prosiectau wrth iddynt geisio hwyluso man diogel a sensitif i bobl ag anghenion gwahanol ond yn aml heb eu datgelu. 

O ganlyniad, canfu Kerry, arweinydd ein grŵp ysgrifennu, ei bod yn asesu anghenion cyfranogwyr yn ystod y sesiynau, a oedd yn heriol. 

Gan gymryd cyngor gan gyfranogwr hirdymor prosiect celfyddyd ac iechyd, a fu'n siarad mewn sesiwn dysgu HARP am werth sgyrsiau gyda pobl wrth werthuso effaith gweithgareddau, galwais bob aelod o'r grŵp i weld sut oeddent.

Roedd yn ymagwedd hirfaith ond effeithiol arall. Yn ystod y sgyrsiau hynny, cynigiodd rai wybodaeth newydd am eu hamgylchiadau personol ac anghenion hygyrchedd a'n helpodd i lunio cyflwyno yn y dyfodol.

 

Er mwyn cyflwyno prosiect artistig o ansawdd uchel sy'n gofalu'n sensitif am bobl ag anghenion amrywiol ac weithiau acíwt, dysgom bod angen mwy o amser a gallu staff i ennyn ymddiriedaeth cyfranogwyr trwy sgyrsiau un-i-un, i drafod ag artistiaid fanylion technegol eu perfformiadau a manylion contract, i sefydlu llwybrau recriwtio ar gyfer cyfranogwyr gydag anghenion penodol, i farchnata'r gweithgareddau'n briodol, i ymateb i ymholiadau cyfranogwyr ac i werthuso llwyddiant.

Creu cysylltiadau newydd

Er gwaethaf yr heriau, cafwyd sawl llwyddiant. 

Mae cynnig prosiectau ar-lein wedi creu cyfleoedd newydd i bobl ymuno â gweithgareddau celfyddydol na fyddent wedi o'r blaen oherwydd anabledd, rhwystrau ariannol, neu yn syml oherwydd natur wledig byw yn Sir Benfro.

Rydym hefyd wedi gweld twf personol.

Roedd un cyfranogwr yn y grŵp ysgrifennu creadigol, er enghraifft, yn awdur a arferai fod yn broffesiynol a oedd wedi rhoi'r gorau i ysgrifennu wedi derbyn diagnosis o ddementia. Rhoddodd ein grŵp le rheolaidd iddi ddechrau ysgrifennu unwaith eto, a'i helpu i ailgynnau'r awch. 

Trafododd gweithwyr gofal y Côr Pellennig effaith y gerddoriaeth ar eu trigolion. Meddai un fod y prosiect wedi 'amlygu'r gwahaniaeth gall cerddoriaeth ei wneud'. 

Meddai un arall fod y prosiect wedi 'hybu morâl' trigolion a'u gofalwyr trwy gymryd rhan a pherfformio gyda'i gilydd.  Dywedodd rhai fod trigolion a oedd wedi colli peth neu'r cyfan o'u gallu i gyfathrebu'n llafar yn gallu cofio'r geiriau i ganeuon cyfarwydd a'u canu. 

Gallai trigolion eraill a oedd yn aneiriol adnabod a theimlo'n gyffrous ac yn fwy animeiddiedig trwy wrando ar gerddoriaeth neu roeddent yn gallu cymryd rhan weithredol drwy chwarae offeryn.

 

Mae'r prosiect HARP hwn wedi cynyddu dylanwad Span Arts ar draws Sir Benfro. Rydym bellach yn ystyried ein dyfodol fel model cymysg o weithgaredd wyneb yn wyneb ac ar-lein. 

Mae Span Arts wedi ffurfio perthynas gref gyda PAVS drwy'r prosiect hwn hefyd, a oedd yn hanfodol wrth gyfeirio pobl ag anghenion penodol a nodweddion gwarchodedig at ein prosiectau. Rydym yn gyffrous am y nifer o gyfleoedd i gydweithio â nhw yn y dyfodol. 

Roedd Celf Lles yn gydweithrediad rhwng SPAN Arts, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), Cysylltwyr Cymunedol PAVS, Cyngor Sir Penfro a hwb ymchwil, arloesedd a gwella Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.