Dechreuodd yr Artist Iola Ynyr a Theatr Genedlaethol Cymru brosiect creadigol sy’n newid bywydau pobl sy’n gaeth i sylweddau ledled Cymru.
Mae Iola Ynyr a’r cynhyrchydd Nia Skyrme yn myfyrio ar eu profiadau o gynnal Ar Y Dibyn…
Fe wnaeth y pandemig COVID-19 ddwysau llawer o’r heriau iechyd, cymdeithasol ac economaidd a oedd eisoes yn bodoli mewn cymunedau ledled Cymru, yn cynnwys dibyniaeth.
Cyrhaeddodd y nifer o farwolaethau cysylltiedig ag alcohol yng Nghymru a Lloegr y lefel uchaf ers 20 mlynedd yn 2020, gan godi 19 y cant i 438 o farwolaethau o achosion a oedd yn benodol i alcohol.
Mae mwy na thraean o fenywod Cymru, a bron i hanner y dynion yn y wlad, yn yfed mwy o alcohol na’r hyn a argymhellir, gyda marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol ar eu huchaf yn rhannau mwyaf difreintiedig y wlad.
Credwn fod gan y celfyddydau ran hanfodol i'w chwarae wrth helpu pobl i oresgyn heriau. Fe wnes i sylweddoli trwy brofiad personol nad oedd cymorth creadigol i bobl sy’n byw gyda dibyniaeth ar gael yn rhwydd yng Nghymru, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg, felly fe wnaethom ddatblygu Ar Y Dibyn.
I ddechrau, cynhaliodd Ar Y Dibyn weithdai ysgrifennu creadigol yn Gymraeg, a oedd yn galluogi’r rheini a oedd wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth i ddod at ei gilydd a rhannu eu hanes a’u profiadau.
Ein nod oedd hunan-rymuso pobl oedd yn byw â dibyniaeth, gan herio’r rhagfarn gymdeithasol.
Roeddem eisiau dangos nad yw pobl sy’n byw gyda dibyniaeth yn ‘faich ar adnoddau’r GIG’ nac ar gymdeithas. Mae gennym ni i gyd rywbeth i'w gynnig.
Mae’r prosiect, a ariannwyd gan HARP (Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil, Pobl) yn 2021 ar ôl cynllun peilot cychwynnol yn 2020, yn cael ei gefnogi gan Fwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau a Llenyddiaeth Cymru, gyda gwasanaeth atgyfeirio a chefnogaeth gan Adferiad Recovery, Stafell Fyw Caerdydd, Shelter Cymru, Canolfan Abbey Road a llawer mwy.
Mae cwnselwyr wrth law ym mhob sesiwn greadigol i roi unrhyw gymorth sydd ei angen.
Ymateb i anghenion
Pan ddechreuon ni’r rhaglen, daeth hi’n amlwg yn gyflym y gallai llawer o wahanol gelfyddydau creadigol gefnogi hunanfyfyrdod a mynegiant. Felly, fe wnaethom gyflwyno mwy o artistiaid, gan wneud y prosiect yn fwy cynhwysol, ac yn brosiect a allai ehangu’n gyflym yn y tymor hir.
Ers hynny, mae tua 50 unigolion wedi rhannu eu straeon trwy ysgrifennu theatr, barddoniaeth, arddangosiadau celf, creu cylchgronau ac ysgrifennu cynnwys ar gyfer ffilm 30 munud o hyd, sydd wedi'i pherfformio gan actorion proffesiynol ac sy'n cael ei chynhyrchu i'r cyhoedd ei gwylio.
Symudwyd hefyd i ffordd hyblyg a hybrid o weithio, gyda mynediad personol ac ar-lein i gyfranogwyr.
Mae nifer y partneriaid sy'n ymwneud ag Ar Y Dibyn wedi cynyddu o tri i 12 o fewn wyth mis, wrth i bobl mewn ardaloedd eraill yng Nghymru ofyn am sesiynau Ar Y Dibyn.
Mae'r cyfranogwyr wedi cael eu synnu gan eu creadigrwydd eu hunain ac mae’r bobl sydd wedi gweld neu brofi eu gwaith wedi cael eu syfrdanu gan safon artistig y celf.
Mae’r prosiect wedi cael effaith gadarnhaol ac amrywiol ar fywydau’r cyfranogwyr.
Ers hynny, mae un cyfranogwr wedi dod yn awdur proffesiynol. Mae cyfranogwr arall, sy’n siarad Saesneg ac a gafodd fudd o wasanaethau cyfieithu’r sesiynau, bellach yn ddysgwr Cymraeg.
Yn ogystal â hyn, gofynnodd rhywun a gafodd ei dderbyn i’r ysbyty a fyddai modd iddynt gymryd rhan mewn sesiynau o’r ward, gan ei fod yn teimlo bod y byddai’r prosiect yn hanfodol i wella ei llesiant.
Y gromlin ddysgu
Bu rhai heriau.
Roedd creu amgylchedd diogel a chyson ar gyfer cyfranogwyr bregus yn hollbwysig. Er mwyn cyflawni hyn, fe wnaethom newid lleoliad rhai sesiynau fel eu bod yn digwydd y tu allan i leoliadau byw â chymorth. Rhoddodd hyn seibiant i bobl o'r amgylchedd sefydliadol.
Mae ennill ymddiriedaeth pobl y mae dibyniaeth yn effeithio arnynt yn gofyn am waith caled a mwy o amser paratoi na phrosiectau celfyddydol ac iechyd eraill yr ydym wedi bod yn rhan ohonynt.
Roedd y gwaith adeiladu partneriaeth sydd ei angen i greu rhwydwaith atgyfeirio effeithiol hefyd wedi cymryd yn hirach na'r disgwyl ac mae tystiolaeth o’r effaith y mae wedi’i chael ar bobl wedi bod yn hanfodol i ddangos gwerth y prosiect i'r sector iechyd.
Mae cael artist â phrofiad byw yn bresennol hefyd wedi bod yn allweddol i lwyddiant y prosiect ac felly, at ddibenion cynaliadwyedd, rydym yn bwriadu datblygu rhai cyfranogwyr fel arweinwyr gweithdai.
Roedd dod o hyd i gwnselwyr a oedd yn siarad Cymraeg â phrofiad o ddibyniaeth yn heriol, yn ogystal â dod o hyd i arfarnwr Cymraeg a oedd yn gyfarwydd â’r sectorau iechyd a chelf ac a allai gyflawni nod y prosiect.
Mae cyllid tymor hir yn hanfodol i barhau i gadw'r sesiynau hyn i fynd. Roedd un o’n grwpiau’n arbennig o fregus, felly fe wnaethom ohirio cynlluniau i ddechrau grŵp newydd a pharhau i weithio gyda’n cyfranogwyr presennol am gyfnod hwy. Roedd y niwed posibl i'w llesiant a'u diogelwch pe baem yn rhoi'r gorau iddi yn ormod.
Credwn y bydd ein rhwydwaith o bartneriaid ar draws gwahanol sectorau yn hanfodol i dalu costau'r sesiynau hyn yn y tymor hir, ac rydym bellach wedi sicrhau cyllid gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau, yn ogystal â phartneriaeth a chyllid posibl gan Gymunedau Gweithredol Hamdden Sir Ddinbych.
Er ein bod yn awyddus i ddangos ansawdd yn hytrach na maint yr effaith, rydym yn gwybod bod angen i'r sector iechyd gyrraedd pobl ar raddfa fawr. Mae dangos y gwahaniaeth y mae’r prosiect yn ei wneud i fywydau unigolion hefyd wedi bod yn anodd, gan nad ydym yn fwriadol yn gofyn i gyfranogwyr rannu eu stori bersonol oni bai eu bod yn dymuno gwneud hynny.
Fodd bynnag, rydym yn dod o hyd i ffyrdd o wneud hyn drwy gynyddu ein negeseuon cyfryngau cymdeithasol o amgylch y prosiect, cynnal digwyddiad i hyrwyddo llwyddiannau prosiectau, creu mwy o gynnwys fideo i’w rannu a dechrau podlediad.
Cysylltu â mwy o bobl
Credwn yn gryf yn nyfodol Ar Y Dibyn ac mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer ei ddatblygu.
Rydym yn mynd i’r afael â’r angen am gymorth creadigol i’r rheini sy’n dioddef o ddibyniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ac, o ganlyniad i hyn, mae partneriaid yn awyddus i weithio gyda ni.
Fel sefydliad cenedlaethol, mae Theatr Genedlaethol Cymru mewn sefyllfa dda i weithio ar draws Cymru ac rydym yn y broses o addasu’r prosiect hwn i leoliadau a mudiadau newydd.
Bydd rhwydwaith atgyfeirio cadarn i’n rhaglen yn hollbwysig. Mae meddygon teulu, grwpiau cymunedol a byrddau iechyd eisoes wedi mynegi diddordeb yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.
Yn ystod ein prosiect HARP, daeth yn amlwg bod rhai merched a oedd yn gwella wedi cael eu cam-drin. Rydym yn dechrau grŵp ar gyfer pobl sy’n adnabod eu hunain fel merched, gyda sesiynau wedi’u cynllunio i’w galluogi i archwilio materion diogelwch a hunaniaeth yn greadigol.
Rydym hefyd wedi cael cais i ddechrau grŵp tebyg ar gyfer pobl sy'n adnabod eu hunain yn ddynion â phroblemau iechyd meddwl.
Rydyn ni hefyd wedi dechrau podlediad Ar y Dibyn.
Rydym hefyd mewn trafodaethau gyda nifer o bartneriaid i ddechrau canolfan adferiad a llesiant, a fyddai’n seiliedig ar ein model creadigol unigryw ac yn cael ei chyflwyno yn Gymraeg.
Rydym wedi sicrhau cyllid statudol, yn ogystal â chyllid gan bartneriaid.
Mae’r prosiect HARP hwn wedi ein dysgu os ydych chi’n creu gofod diogel, mae unrhyw beth yn bosibl, a’r ffordd orau o wneud hynny yw bod yn greadigol.
Mae Ar Y Dibyn yn bartneriaeth rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Gwynedd ac Uned Partneriaeth Môn, Llenyddiaeth Cymru, Adra (Tai) Cyf a’r artist arweiniol, Iola Ynyr.
Am fwy o wybodaeth am Ar Y Dibyn, ewch i'w gwefan.